Swyddi ffatri gaws GRH ger Penrhyndeudraeth yn y fantol

  • Cyhoeddwyd
GRH Minffordd

Mae dyfodol 82 o swyddi yn y fantol yng Ngwynedd ar ôl i ffatri gaws GRH Food Company ym Minffordd ger Penrhyndeudraeth fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Cafodd GRH - cwmni sy'n cyflenwi caws i farchnadoedd yn y DU a thramor - ei sefydlu yn 1989 gan gyflogi 86 o bobl ym Mharc Busnes Eryri.

Mae pedwar o bobl yn parhau i weithio ar y safle, wrth i waith y gweinyddwyr fynd rhagddo.

Mae AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd.

'Ymchwilio i bob opsiwn'

Dywedodd Paul Dumbell ar ran y gweinyddwr, KPMG: "Roedd GRH yn fusnes uchelgeisiol oedd wedi tyfu yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae costau cynyddol wedi rhoi gormod o bwysau ar gyllideb y cwmni.

"Er gwaethaf ymdrechion i werthu, doedd dim modd dod o hyd i brynwr.

"Er na fydd y safle yn parhau i gynhyrchu yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn parhau i ymchwilio i bob opsiwn ar gyfer y safle."

Ar y Post Cyntaf fore Mawrth, dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas o Gyngor Gwynedd bod y newyddion yn "ergyd ofnadwy o drom i'r ardal", a hynny yn "enwedig o gysidro'r colli swyddi sy' 'di bod yn ddiweddar".

Dywedodd Mr Thomas, sydd â chyfrifoldeb am yr economi ar y cyngor, bod y cyngor yn "trio'n gorau i ddylanwadu ar y llywodraeth i ddod ag arian i mewn" a bod gobaith am gynllun twf gogledd Cymru hefyd.

Ychwanegodd ei fod yn deall bod gan gwmnïau eraill ddiddordeb yn y safle.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.