Rhoi ail wynt i 'do, re, mi'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Brython, Leusa a Rhyddid yn canu Sol-ffa

Tra'i fod yn cael ei gysylltu gyda'r genhedlaeth hŷn a diwylliant sy'n diflannu, mae'r fideo o'r plant yma yn profi bod yna fywyd ar ôl yn yr hen Sol-ffa o hyd.

A gobaith eu tad ydi creu adfywiad cyn colli rhan o dreftadaeth gerddorol Cymru.

Ar un cyfnod roedd clywed sŵn canu 'do, re, mi' yn gyffredin yng Nghymru gan fod y capeli a'r Ysgol Sul yn dysgu'r grefft o ddarllen cerddoriaeth gan ddefnyddio'r system Tonic Sol-ffa.

Ond wrth i gymdeithas y capel wanhau, felly hefyd wnaeth yr arfer o ddysgu Sol-ffa.

Nawr mae'r arweinydd côr a thiwtor llais Trystan Lewis yn ceisio hybu adfywiad.

Mae wedi dechrau ymweld ag ysgolion cynradd ac yn dysgu'r grefft i'w blant Leusa, Rhyddid a Brython wrth deithio yn y car.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Llannefydd
Disgrifiad o’r llun,

Trystan Lewis yn dysgu Sol-ffa i blant ysgol Llannefydd

Meddai ar raglen Aled Hughes, ar Radio Cymru: "Mae'r iaith Sol-ffa yn iaith mor glyfar oherwydd bod plant yn dod i adnabod sain a rhoi enw i'r nodyn - dyna sydd mor glyfar.

"A hefyd y naid o un nodyn i'r llall, y cyfwng - neu'r intervals - maen nhw'n gallu ei glywed o.

"Wedyn wnaiff y plant eistedd o flaen y teledu ac maen nhw'n clywed rhyw alaw ac maen nhw'n ganu fo yn Sol-ffa - mae'n magu clust gerddorol."

System gerddorol syml gafodd ei ddatblygu yn y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg ydi Sol-ffa, ac mae'n cael ei ystyried yn haws na dysgu nodau traddodiadol.

Mae'n defnyddio saith nodyn graddfa, pob un efo enw a symbol llaw wahanol, ac mae'r traw yn cael ei addasu os ydi'r cyweirnod yn newid.

Meddai Trystan Lewis, sy'n gadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol eleni: "Mae Sol-ffa mwy neu lai wedi diflannu achos roedd y gyfundrefn yn dibynnu ar ysgol Sul, Ysgol Gân, Y Gobeithlu - y Band of Hope ac wrth fod capeli ddiflannu o'r tir mae 'na wagle anferth yn digwydd ac oherwydd y cwricwlwm dydi plant bellach ddim yn dysgu darllen cerddoriaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Trystan Lewis wedi gweld llai o ddefnydd o Sol-Ffa ymysg aelodau corau meibion

"Maen nhw'n dysgu canu ac maen nhw'n dysgu'r holl ganeuon ond yn aml iawn maen nhw'n bangio nodau fel bod y plant yn dysgu yn ôl y glust neu CDs neu MP3 ond dim yn dysgu i ddarllen

"A dyna fy nadl fawr i le roedden ni fel Cymry yn gallu darllen oratorios, darllen caneuon, darllen pethau' eitha' cymhleth ac astrus a bellach mae hwnnw yn cael ei golli.

"Yr un fath efo corau meibion pan o ni'n dechrau efo Côr y Maelgwn roedd sol-ffeuwrs arbennig ac wrth i'r genhedlaeth yna ddiflannu does dim byd yn dod yn ei le fo."

Yn ogystal â dechrau mynd o gwmpas ysgolion cynradd i ddysgu sol-ffa i blant, mae Trystan Lewis yn creu cystadleuaeth ar Facebook bob wythnos.

Mae ei blant yn canu fersiwn Sol-ffa o un o'r emynau fydd yng Nghymanfa Ganu'r Eisteddfod Genedlaethol eleni - a phawb i ddyfalu beth ydi'r dôn.