Y llyffantod o Affrica wnaeth ymgartrefu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Cyn i brofion beichiogrwydd mwy confensiynol ddod i'r fei, roedd darpar rieni yn aml yn dibynnu ar gymorth brid llyffant o Affrica er mwyn canfod unrhyw newyddion.
Yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, fe fyddai meddygon yn chwistrellu wrin menyw o dan groen llyffant benywaidd - a phe bai'r ddynes yn feichiog yna byddai'r llyffant yn cynhyrchu wyau.
Cafodd y broses ei datblygu yn y 1920au, gyda'r llyffantod yn cael eu cadw mewn pedair canolfan yn y DU.
Ond llwyddodd nifer i ddianc, gyda rhai yn ymgartrefu mewn dwy ardal yn ne Cymru.
Llwyddodd gwyddonwyr i ddod o hyd iddyn nhw - ond beth yw hanes y llyffant crafangog Affricanaidd erbyn hyn?
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn debygol fod y llyffantod wedi ymgartrefu yng Nghymru yn yr 1960au cynnar.
Un o'r cofnodion cynharaf o'r llyffant Affricanaidd, neu'r Xenopus laevis, yw yn 1966 yn ardal Cwm Alun ym Mro Morgannwg.
Erbyn 1979 roedd y llyffantod wedi ailgenhedlu yn llwyddiannus, ac yn yr 1980au cofnodwyd nifer ohonynt yn ardal Southerndown.
Cafodd union leoliadau'r anifail eu cadw'n gyfrinach.
Y llyffant crafangog Affricanaidd
Y gwryw yn pwyso 60g a thua 6cm o hyd;
Menywod yn pwyso tua 200g a hyd at 12cm;
Yn wreiddiol o ddwyrain a de Affrica ac Angola;
Yn gallu byw hyd at 16 oed yn y gwyllt neu 20 mewn caethiwed.
Fe wnaeth gwyddonwyr ddechrau cadw cofnodion o'r anifail, gan ddal a rhyddhau rhyw 2,000 rhwng 1981 a 2010.
Roedd dau o'r llyffantod wedi byw am o leiaf 14 mlynedd, ac ar un noson yn 2006 cafwyd hyd i 345 yn byw mewn un pwll.
Yna daeth pryder y byddai'r anifail yn lledu ffwng marwol i lyffantod brodorol, ac fe benderfynodd Llywodraeth Cymru yn 2008 y byddai'r rhaid mynd ati i waredu arnynt.
Gwnaed trefniadau i ddal yr anifeiliaid yn haf 2010 ond roedd natur eisoes wedi penderfynu ar ffawd y llyffantod.
Fe wnaeth y gwyddonwyr fethu â dod o hyd i unrhyw un o'r llyffantod, ac fe ddigwyddodd yr un peth yn Sir Lincoln - man arall lle'r oedd yr anifail wedi llwyddo i ymgartrefu.
Mae gwyddonwyr yn creu fod gaeafau caled 2009 a 2010 wedi golygu diwedd y brid yn y DU.
Dim ond un llyffant gafodd ei ddal rhwng 2010 a 2011, a dyma'r tro olaf i un gael ei gofnodi ym Mhrydain.
Fe wnaeth adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru ddod i'r casgliad ei bod yn hynod debygol nad oedd y llyffantod wedi goroesi fel brid, er ei bod yn bosib y bydd un neu ddau o'r anifeiliaid yn parhau tan ddiwedd eu hoes naturiol.