Cerddor stryd dall ym Mangor yn diolch am gefnogaeth
- Cyhoeddwyd
Mae cerddor stryd dall, a gafodd arian wedi ei ddwyn ganddo ar Stryd Fawr Bangor, wedi diolch i bobl yn dilyn ymgyrch i godi arian.
Fe wnaeth gwefan y Bangor Aye lansio ymgyrch i helpu Chris Chadwick, 23, ar ôl adroddiadau bod dau ddyn wedi dwyn ganddo wrth iddo berfformio ddydd Mercher.
Cafodd fideo o'r digwyddiad, sy'n dangos arian yn cael ei gymryd o gês gitâr Mr Chadwick, ei rannu ar y we ac mae bellach wedi cael ei weld dros 100,000 o weithiau.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod dau ddyn lleol wedi ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener wedi'u cyhuddo o ddwyn mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae Alan Fothergill, 43, a Gary Williams, 51, yn gwadu'r cyhuddiad, ac fe gafon nhw eu cadw yn y ddalfa nes eu hymddangosiad nesaf.
'Anhygoel'
Dywedodd llefarydd ar ran y Bangor Aye eu bod wedi penderfynu ceisio casglu tua £50 - y swm mae Mr Chadwick yn ceisio'i godi bob diwrnod wrth berfformio.
"Fe wnaeth yr holl beth dyfu yn annisgwyl o sydyn dros nos, a llwyddon nhw i godi dros £1,100, sy'n anhygoel," meddai Mr Chadwick.
"Mae'r arian yn grêt a dwi'n ddiolchgar iawn wrth gwrs, ond y geiriau o gefnogaeth sydd wedi rhoi'r hyder i mi allu dod allan heddiw a pharhau i chwarae."
Ychwanegodd y llefarydd ar ran y Bangor Aye: "Roeddwn i'n fwy na hapus. Mae'n dangos nad yw pobl yn fodlon derbyn ymddygiad o'r fath. Mae pobl eisiau dangos nad yw Bangor yn ddrwg i gyd."