Iawndal i fyfyriwr gofal iechyd sy'n gwrthod brechlynnau
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael gorchymyn i dalu dros £9,000 mewn iawndal am ddweud wrth fyfyriwr gofal iechyd oedd yn gwrthod derbyn unrhyw frechlynnau i adael y cwrs.
Roedd y myfyriwr wedi nodi mewn holiadur ar ddechrau'r cwrs nad oedd ef neu hi wedi cael unrhyw frechlynnau yn y gorffennol, ac yn amharod i'w derbyn yn y dyfodol.
Ond fe fethodd y brifysgol ag edrych ar yr holiadur cyn i'r cwrs ddechrau, gan benderfynu bod yn rhaid i'r myfyriwr adael oherwydd risgiau posib i iechyd cleifion.
Dywedodd y brifysgol nad yw'n gwneud sylwadau am achosion unigol, ond y bydd yn cydymffurfio ag argymhellion yr OIA (Office of the Independent Adjudicator) wedi i gwynion y myfyriwr gael eu derbyn yn rhannol.
Cafodd manylion yr achos eu cyhoeddi mewn adroddiad gan y corff annibynnol sy'n edrych i gwynion myfyrwyr yng Nghymru a Lloegr.
Pryderon ymarferol
Dydy'r adroddiad ddim yn enwi'r myfyriwr, a lenwodd ffurflen iechyd galwedigaethol cyn dechrau'r cwrs.
Yn hwnnw, nododd y myfyriwr nad oedd wedi cael unrhyw frechlynnau ac roedd yn gwrthod cydsynio i'w cael.
Ni ddaeth y wybodaeth yna i sylw trefnwyr y cwrs tan "gwpl o fisoedd" wedi i'r myfyriwr ddechrau astudio.
Roedd hynny yn sgil polisi'r brifysgol o oedi cyn adolygu holiaduron er mwyn osgoi edrych ar ffurflenni myfyriwr na aeth ymlaen i astudio yno.
Gan fod yna bryderon, o ganlyniad, a oedd hi'n ddiogel i'r myfyriwr fwrw ymlaen ag elfennau ymarferol y cwrs, cafodd yr achos ei gyfeirio at bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer.
Penderfynodd y pwyllgor bod hawl gan y myfyriwr i beidio derbyn brechlyn ond bod dim modd parhau â'r cwrs.
Dywedodd yr OIA eu bod wedi ystyried "a oedd y myfyriwr wedi amlygu dirnadaeth ddigonol i drosglwyddiad heintiau a firysau" ac a fyddai hunanasesiad o iechyd y myfyriwr ei hun yn gam addas "i liniaru'r risg o heintio eraill".
Ychwanegodd: "Daeth y pwyllgor i'r casgliad y byddai caniatáu i'r myfyriwr barhau ar y cwrs yn creu risg i'w hiechyd nhw ac i iechyd cleifion."
Fe gwynodd y myfyriwr ac apelio ar ôl symud i gwrs â rhaglen wahanol.
Gofid a chostau llety
Mae'r brifysgol wedi cydnabod nad oedd y wybodaeth i fyfyrwyr yn ddigon eglur ac y dylid fod wedi prosesu holiaduron yn gyflymach.
Dywed yr OIA bod dim gwybodaeth ar wefan y brifysgol bod angen brechlynnau, nac ychwaith mewn llythyr yn cynnig lle ar y cwrs i'r myfyriwr.
Hefyd doedd myfyrwyr heb gael gwybod na fyddai'r holiaduron yn cael eu hadolygu'n syth.
Dywedodd bod angen talu iawndal o £5,000 am achosi gofid i'r myfyriwr trwy oedi'r broses apêl - swm a gododd i £9,342 gan fod y myfyriwr eisoes wedi talu am lety - ond bod penderfyniadau'r brifysgol yn "rhesymegol ac ar sail tystiolaeth".
Mae'n argymell i'r brifysgol adolygu'r ffordd mae'n delio â ffurflenni iechyd galwedigaethol ac i roi gwybodaeth fwy clir i ddarpar fyfyrwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol eu bod yn "cydweithio'n llawn â holl ymchwiliadau'r OIA ac yn cydymffurfio ag unrhyw argymhellion".