Hywel Gwynfryn: 55 mlynedd o ddarlledu gyda BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Eleni, mae hi'n 55 o flynyddoedd ers i Hywel Gwynfryn ddechrau gyda BBC Cymru.
Ond bu'n agos iawn at beidio â serennu ar ein setiau radio a theledu ar raglenni fel Heddiw, Helo Sut Da Chi?, Telewele a Rhaglen Hywel a Nia, ac yn hytrach, dod yn athro yn lle.
Mae Hywel wedi bod yn hel atgofion am ei yrfa gyda Cymru Fyw, ac am y penderfyniad tyngedfennol hwnnw, nôl yn 1964, a drawsnewidiodd ei fywyd.

"O'n i'n 24 a newydd raddio o'r Coleg Cerdd a Drama, Caerdydd, ac am fynd yn athro drama mewn ysgol ym Mynydd Cynffig. Roedd gen i swydd dros yr haf yn nhafarn The Borough, a daeth criw o gynhyrchwyr y BBC yno i gael bwyd un noson.
"Roedden nhw'n synnu mod i'n siarad Cymraeg, a soniais i am fy mwriad i fynd i fod yn athro.
"Ar ôl sgwrs fer, ges i wahoddiad gan y cynhyrchydd radio Nan Davies i fynd draw i Stacey Road - swyddfeydd y BBC ar y pryd - i gael cyfweliad.

Hywel yn ei swydd gyntaf gyda'r BBC, fel un o gyflwynwyr Heddiw
"O'n i wir yn meddwl mai beth oedden nhw eisiau oedd fy holi fi am y ffaith mod i am fod yn athro drama - achos o'dd hynny'n beth reit newydd ar y pryd.
"Doedd hi ddim tan i mi fynd i'r swyddfeydd 'nes i sylweddoli eu bod nhw eisiau rhoi cyfweliad a screentest i mi, am eu bod nhw'n chwilio am rywun i gydgyflwyno efo Owen Edwards ar raglen ddyddiol Heddiw - rhywun fyddai'n gwneud eitemau ysgafnach."

Cyfweld cystadleuydd ifanc yn Eisteddfod yr Urdd Caergybi 1966
Ar sail ei berfformiad yn y cyfweliad, cynigiodd Nan Davies dri mis o waith i Hywel.
Ag yntau â swydd barhaol yn aros amdano mewn ysgol, roedd rhaid i Hywel wneud penderfyniad mawr.
"Er mor ifanc a dibrofiad o'n i, o'n i'n meddwl fod tri mis ddim yn swnio rhy dda, achos o'dd gen i sicrwydd o swydd am oes. 'Na i byth anghofio beth ddywedodd hi wrtha i.
"'Da chi'n iawn,' medda hi, 'yn y llaw yma mae gennych chi sicrwydd. Yn y llaw arall mae gennych chi ddau beth - ansicrwydd a chyfle i 'neud rhywbeth gwahanol, i 'neud gwahaniaeth, i fod yn rhan o rywbeth cyffrous.'
"A dyna sut nes i gychwyn."

Perfformio ar Hob y Deri Dando yn 1965
Roedd BBC Cymru ond wedi cael ei lansio ychydig o fisoedd, ar 9 Chwefror 1964, ac felly roedd y BBC yn chwilio am dalent newydd.
"Roedd pawb yn amaturaidd ar y pryd, gan wneud unrhyw waith cyflwyno neu actio gyda'r nos ar ôl gorffen yn eu swyddi 'go iawn'.
"Roedd angen i mi weithio ar raglen ddyddiol, ond roedden nhw hefyd angen pobl i wneud adloniant ysgafn felly roedden nhw'n gallu fy nefnyddio i ar y rhaglenni yna.
"'Nes i ganu'r gitâr ar Hob y Deri Dando ar y Dydd Sadwrn cyn i mi ddechrau efo Heddiw.
"Mi dyfodd pethau wedyn yn ara' deg bach."

Hywel gyda siarc a ddaliodd tra'n ffilmio Bilidowcar yn Florida
Mae Hywel yn teimlo'n ffodus o fod wedi cael cyfleoedd i weithio ar amryw o fathau gwahanol o raglenni, a hynny ar y teledu ac ar y radio.
"Yn 1967, ges i gyflwyno rhaglen bop ar fore Sadwrn ar y radio, o'r enw Helo Sut Da Chi? - y rhaglen bop Gymraeg gynta' erioed.
"Yn 1975, roedd y rhaglen blant Bilidowcar yn rhoi cyfle i mi ffilmio ar draws y byd.

Helo Bobol oedd y rhaglen gyntaf ar ôl y newyddion ar ddiwrnod cyntaf BBC Radio Cymru ar 3 Ionawr 1977
"Wedyn yn 1977, pan ddechreuodd Radio Cymru, o'n i yno, a 'nes i gyflwyno Helo Bobol am 12 mlynedd.
"Ddechrau'r 80au, o'n i'n gwneud chat show ar nos Sul. Ges i hefyd gyfnod yn y 90au yn cyflwyno ym Mangor ar raglenni radio Saesneg.

Hywel yn arddangos un o'i nifer o steiliau gwallt amrywiol ar Rhaglen Hywel Gwynfryn yn yr 80au
"Dwi wastad wedi gwneud teledu a radio ar yr un pryd. Ond 'na i byth anghofio y cyngor ges i gan Nan Davies un tro - 'Cofiwch y gallwch chi fod yn lais ar y radio, ymhell ar ôl i chi fod yn wyneb ar y teledu - datblygwch y grefft, peidiwch â chanolbwyntio ar fod ar y teledu.'
"Dydi o ddim yn rhy gryf i ddweud fod Nan Davies yn arloeswr radio yn y cyfnod yna. Roedd hi'n berson allweddol yn fy ngyrfa - hi welodd fod yna rywbeth yna.

Yn cyflwyno o Fangor yn 1998
"Cyngor arall roddodd i mi oedd - 'Cofiwch bo' chi yn berfformiwr a'ch bod chi'n ei 'neud o yn eich ffordd eich hun - peidwch â thrio copïo neb. Byddwch yn chi eich hun.'
"Dwi wedi trio gwneud hynny - mae'r Hywel ar y radio mor debyg â phosib â'r Hywel go iawn. What you see is what you get."

Roedd Hywel unwaith eto'n darlledu o faes y brifwyl yn Llanrwst yn 2019
Dros bum degawd ar ôl ei swydd gyflwyno gyntaf, mae Hywel yn dal i'w glywed ar ein tonfeddi bob prynhawn Sul, ac yn darlledu o bob Eisteddfod yr Urdd a Chenedlaethol ar BBC Radio Cymru.
Ac mi fydd Hywel, ymhlith staff BBC Cymru a fydd, dros y misoedd nesaf, yn symud o'u cartref presennol yn y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf, dair milltir i lawr y ffordd i ganol dinas Caerdydd, i adeilad newydd y Sgwâr Canolog.
Yn 1966, cafodd llun o holl staff BBC Cymru ei dynnu o flaen y Ganolfan Ddarlledu a oedd newydd ei hagor. Yn 2019, cafodd y llun ei ail-greu, cyn i bawb adael yr hen adeilad.
Hywel Gwynfryn yw'r unig berson sydd yn y ddau lun.

Staff BBC Cymru yn 1966 tu allan i'r Ganolfan Ddarlledu newydd yn Llandaf, Caerdydd. Oes gan rywun chwyddwydr i geisio dod o hyd i Hywel?!

Mae llawer mwy o staff yn gweithio i BBC Cymru Fyw yn 2019 - welwch chi Hywel?
"O'n i'n hynod o ffodus o'i gymharu â phobl ifanc sy'n dod i'r busnes 'ma heddiw, achos ma' 'na gannoedd, a phawb isho bod yn media star. Ond bryd hynny, roedd rhaid i chi fod yn bopeth i bawb, ond roedd hynny yn golygu eich bod chi mewn gwaith drwy'r amser.
"Weithiau, beth sydd ei angen ydi break, a mae 'na gymaint o bobl dalentog sydd fel'na - yn dalentog ac angen y cyfle.
"Dwi wastad yn d'eud, mae hi'n bwysicach i gael lwc a 'chydig bach o dalent, na lot o dalent a dim lwc, neu chewch chi ddim y cyfle i ddatblygu'r dalent 'na wedyn.
"O'n i yn y Borough Arms un noson yn 1964, a dyna oedd y lle i fod."

Dacw Hywel, yng nghanol y llun, i'r chwith o'r arwydd, ymhlith criw o staff BBC Radio Cymru
Hefyd o ddiddordeb: