Prif weithredwr Cyngor Ynys Môn am roi'r gorau i'w swydd
- Cyhoeddwyd
Bydd prif weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Dr Gwynne Jones yn ymddeol ym mis Hydref.
Mae wedi bod yn y swydd ers mis Mehefin 2015.
Wrth gyhoeddi ei fwriad, dywedodd fod y penderfyniad wedi bod yn un anodd.
"Wrth gwrs, cafwyd cyfnodau heriol, ond rydym wedi cyflawni llawer er gwaethaf gweld ein cyllidebau yn lleihau flwyddyn ar ôl blwyddyn," meddai.
"Byddaf yn sicr yn edrych yn ôl ar fy amser yma gyda hoffter a balchder."
Dywedodd arweinydd y cyngor, y cynghorydd Llinos Medi fod Dr Jones wedi dangos "gweledigaeth, brwdfrydedd ac ymroddiad llwyr".
Does dim manylion eto ynglŷn â'r amserlen o ddewis ei olynydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2019