Cyngor Môn: Prinder staff yn 'arafu ceisiadau cynllunio'
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Môn wedi dweud mai diffyg staff sy'n eu hatal rhag dod i benderfyniad ar geisiadau cynllunio ar amser.
Clywodd Pwyllgor Craffu Corfforaethol Cyngor Ynys Môn mai dim ond 81% o geisiadau cynllunio â benderfynwyd ar amser, gan fethu'r targed o 90%.
Mae'r cyngor yn anelu i ddod i benderfyniad ar geisiadau cynllunio o fewn wyth wythnos o dderbyn y cais.
Dywedodd un o benaethiaid y pwyllgor cynllunio bod diffyg staff yn ganlyniad "symleiddio gwasanaethau'r cyngor".
Wrth ymateb i fethiant y pwyllgor i gyrraedd eu targed, cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Dew am y trafferthion a achoswyd gan ddiffyg staff.
"Rydym yn aml yn trafod gallu'r staff, ond fe all absenoldeb un swyddog gael effaith mawr," meddai.
Yn ôl swyddogion, gwelwyd y perfformiad gwaethaf rhwng Hydref a Rhagfyr 2018 - dim ond 74% o'r ceisiadau gafodd eu penderfynu mewn pryd.
'Ymdopi â llwyth gwaith'
Dywedodd prif swyddog cynllunio'r cyngor bod "llawer wedi ei wneud i symleiddio gwasanaethau'r cyngor a datblygu systemau newydd dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae hyn yn golygu ein bod wedi gorfod gwerthuso swyddi a chyfrifoldebau aelodau'r tîm, sydd wedi cael effaith ar y llif gwaith a pherfformiad," meddai Dewi Francis Jones.
"Rydym hefyd wedi bod yn ceisio ymdopi â'r llwyth gwaith yn y maes gorfodi, sydd unwaith eto, yn ffactor."
Esboniodd bod y gwaith yn angenrheidiol a'u bod nhw mewn sefyllfa well i fod yn symud ymlaen.
Clywodd y cyfarfod fod yr awdurdod wedi gorffen y flwyddyn gyda gorwariant o £633,000 - sy'n well na beth oedden nhw yn ei ddisgwyl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2019
- Cyhoeddwyd3 Mai 2019