Dau weithiwr wedi marw ar ôl i drên eu taro ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae dau weithiwr rheilffordd wedi marw ar ôl cael eu taro gan drên ger Margam, Port Talbot.
Roedd y ddau ddyn, oedd yn 58 a 64 oed, yn dod o ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ychydig cyn 10:00 ddydd Mercher.
Yn ôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain, mae'n bosib bod y ddau ddyn heb glywed y trên yn nesáu am eu bod yn gwisgo offer i amddiffyn eu clyw.
Cafodd un person arall ei drin am sioc ar y safle.
'Damwain ofnadwy'
Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Chris Grayling, y byddai ymchwiliad llawn i'r digwyddiad, ac y byddai'n "sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu".
Mae undeb yr RMT, sy'n cynrychioli gweithwyr y rheilffyrdd, wedi dweud y dylid atal y math o waith oedd yn digwydd ym Mhort Talbot nes bod yr holl ffeithiau wedi dod i'r fei.
"Yn ogystal â mynnu atebion gan Network Rail ac atal unrhyw waith tebyg am y tro tan fod yr holl ffeithiau i law, fe fydd yr undeb yn cefnogi ein haelodau a'u teuluoedd," meddai Mick Cash, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb.
Mae cyfarwyddwr Network Rail yng Nghymru, Bill Kelly wedi cadarnhau y bydd y cwmni'n cydweithio'n llawn gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain a'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd.
"Rydym yn meddwl am deuluoedd ein cydweithwyr ac aelodau o staff fydd wedi eu heffeithio gan y golled drasig yma, a byddwn yn cynnig yr holl gefnogaeth y gallwn ni," meddai.
Roedd tua 180 o bobl ar y trên, oedd yn cludo dau gerbyd, pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni trenau GWR fod yr holl deithwyr wedi llwyddo i adael y cerbydau yn ddiogel erbyn ychydig wedi 15:00 ddydd Mercher.
"Rydym am ddiolch i'n gweithwyr ac i'r gwasanaethau brys oedd yn gofalu am ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr ar y trên yn dilyn y digwyddiad, gan sicrhau eu bod yn gadel yn ddiogel a chael math arall o drafnidiaeth," meddai'r llefarydd.
Ychwanegodd eu bod yn estyn eu cydymdeimlad i deuluoedd a chyfeillion y rhai a fu farw ac y byddai'r cwmni yn cydweithredu yn llawn gyda'r ymchwiliad.
Y trên fu yn y gwrthdrawiad oedd gwasanaeth rhwng Abertawe a Paddington yn Llundain.
'Clywed dim byd'
Dywedodd un teithiwr ar y trên, Martin: "Digwyddodd hyn yn fuan ar ôl gadael Port Talbot Parkway.
"Wnaethon ni ddim clywed unrhyw beth o gwbl.
"Doedden ni ddim yn gwybod am y digwyddiad tan ar ôl i reolwr y trên wneud cyhoeddiad."
Roedd un arall o'r teithwyr, Auriel Griffiths o Gimla ger Castell-nedd, wedi bod yn sownd ar y trên am dair awr.
"Dwi'n meddwl bod e'n ofnadwy fod dau wedi colli eu bywydau," meddai.
"Roedd staff y trên yn dda iawn yn rhoi diod a snac i ni a gweld fod ni'n iawn.
"Oedd e just cyn Port Talbot, a daeth i stop, a daeth rhywun a dweud byddwn ni'n disgwyl am ddwy awr.
"Ro'n i ar y ffordd i Lundain i weld fy mrawd yn yr ysbyty ond dwi wedi rhoi'r gorau i hynny.
"Nes i ddim clywed bang na ddim byd, ond i'r bobl druan fu farw mae hynny'n llawer gwaeth nag anghyfleustra. Dwi'n ypset iawn."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon dau gerbyd cyflym, dau ambiwlans a dau gerbyd o'r tîm digwyddiadau peryglus.
Cafodd Ambiwlans Awyr hefyd ei anfon i'r safle.
Fe wnaeth y digwyddiad achosi trafferthion i wasanaethau eraill hefyd, gyda threnau ddim yn stopio yn y gorsafoedd rhwng Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr am ran fwyaf o'r dydd.
Fe wnaeth gwasanaethau rhwng Caerdydd Canolog ac Abertawe hefyd wynebu oedi neu gael eu canslo, gyda gwasanaeth bysiau yn cael ei ddarparu i deithwyr yn y cyfamser.
Yn hwyr nos Fercher cafodd y llinell drên ei hailagor, gyda bysus yn parhau i redeg rhwng y ddwy ddinas.