Ymgeiswyr arweinyddol y Ceidwadwyr yn addo arian i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r ddau ymgeisydd yn y ras i arwain y Blaid Geidwadol wedi addo rhoi arian i Gymru i gymryd lle'r arian Ewropeaidd fydd yn mynd wedi Brexit.
Erbyn 2020 fe fyddai Cymru wedi derbyn cyfanswm o dros £5bn o arian adeileddol gan yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Boris Johnson y byddai'n rhoi arian cyfatebol i'r hyn yr oedd yn dod gan yr Undeb Ewropeaidd, ond fe awgrymodd y byddai gan ei lywodraeth rywfaint o ddylanwad ar sut y byddai'n cael ei wario.
Fe fyddai'n syniad da i'r Ceidwadwyr gadw llygaid ar werth am arian, meddai wrth y gynulleidfa.
Ar hyn o bryd mae'r mwyafrif o arian Ewropeaidd yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd.
Dywedodd Jeremy Hunt wrth y cyfarfod o aelodau'r blaid yng Nghanolfan yr Holl Gynghreiriau yng Nghaerdydd y byddai e, fel Prif Weinidog, yn sicrhau na fyddai Cymru ar eu colled.
Wrth annerch y dorf a ddaeth i'r cyfarfod dywedodd Mr Johnson bod angen gwyrdroi'r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen gyda ffordd osgoi newydd i'r M4 ger Casnewydd, ac y byddai'n erfyn ar Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i ailystyried.
Fe wnaeth y ddau ateb cwestiynau gan aelodau'r blaid am yn ail.
Mae'r Llywodraeth yn San Steffan wedi addo rhannu arian gyda'r gwledydd datganoledig o gronfa gyllid newydd - ond maen nhw wedi cael eu beirniadu am beidio ag esbonio sut y byddai hynny'n gweithio.
Dywedodd Mr Johnson: "Gallaf roi'r sicrwydd pendant y bydd y gronfa ffyniant yn cael ei ddyrannu'n llawn i Gymru.
"Rwy'n credu y gallai fod rhywfaint o gwestiwn ynghylch sut yn union y caiff yr arian hwnnw ei ddosbarthu, neu gan bwy.
"Hoffwn sicrhau bod dylanwad ceidwadol cryf ar y gwariant hwnnw i sicrhau ei fod yn cyflawni gwerth am arian i'r trethdalwr."
Wrth ymateb i'r un cwestiwn dywedodd Mr Hunt: "Wrth gwrs, rydym yn mynd i sicrhau bod pob rhan o'r Deyrnas Unedig yn elwa o'r arian ychwanegol hwnnw.
"Efallai y byddai un gronfa arian yn llai ond byddai mwy o arian mewn cronfa arall wedyn.
"Byddaf yn gwneud yn siŵr, fel prif weinidog, nad yw Cymru ar ei cholled."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2019