Gallai ffermwyr gael eu talu i warchod yr amgylchedd
- Cyhoeddwyd
Bydd ffermwyr yng Nghymru yn derbyn arian ychwanegol i gwblhau gwaith sy'n gwarchod ac ehangu'r amgylchedd o dan gynlluniau newydd yn dilyn Brexit.
Fe fydd disgwyl i ffermwyr weithio gydag arbenigwyr i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ffermydd unigol.
Ond nid oes cadarnhad ar hyn o bryd faint o gyllid fydd ar gael i ariannu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar ôl Brexit.
Dyma'r ail dro i Lywodraeth Cymru ofyn am farn y bobl am gynlluniau i gefnogi'r diwydiant amaeth ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Cyfuno dau gynllun grant
Ar hyn o bryd mae ffermwyr Cymru yn derbyn tua £300m y flwyddyn mewn cymorth uniongyrchol o Frwsel - sy'n cyfateb i 80% o'u hincwm ar gyfartaledd.
Yn wreiddiol roedd gweinidogion wedi cynnig dau gynllun grant newydd, ond mae'r cynnig diweddaraf yn cyfuno'r ddau gynllun.
Fe fydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn talu am waith i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, creu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a gwella ansawdd dŵr.
Bydd arbenigwyr yn ymweld â ffermydd a bydd cytundebau yn seiliedig ar y buddion amgylcheddol y mae, neu y gallai'r ffermwyr fod yn eu cyflawni.
Fe fydd amaethwyr hefyd yn cael eu gwobrwyo am waith amgylcheddol newydd - fel plannu coetiroedd newydd - ond hefyd yn derbyn cydnabyddiaeth am warchod yr hyn sy'n bodoli eisoes.
Yn ôl y gweinidog dros yr amgylchedd a materion gwledig, Lesley Griffiths, mae'r cynllun yn help i fynd i'r afael â heriau cynhyrchu bwyd cynaliadwy, wrth i'r diwydiant ymateb i newid hinsawdd a chynyddu bioamrywiaeth.
"Mae'r ffordd yr ydym yn cefnogi ffermwyr wedi Brexit yn newid ac mae Brexit yn gyfle i ni greu cynllun sydd wedi'i wneud yng Nghymru." meddai.
"Ni fu amheuaeth erioed ynghylch a ydym am barhau i gefnogi ffermwyr - y cwestiwn yw beth yw'r ffordd orau o wneud hynny?
"Rydym am gael ffermydd cynaliadwy sy'n cynhyrchu bwyd yn ogystal â manteision ehangach i wella llesiant ffermwyr, cymunedau gwledig a phawb yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol.
"Fodd bynnag ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain ac mae angen inni weithio gyda ffermwyr yn uniongyrchol i sicrhau bod ein cynigion yn gweithio yn ymarferol."
Roedd Ms Griffiths wedi gobeithio y byddai'r cynllun ariannu newydd yn cael ei gyflwyno'n raddol o 2021 ymlaen, ond dywedodd ei bod yn "rhwystredig iawn" nad oes unrhyw sicrwydd wedi dod ynghylch faint o arian fyddai ar gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer ffermio yng Nghymru ar ôl 2022.
Dywedodd mai dyna pam nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gallu cynnal asesiad llawn o'r cynnig, fel y mae'r diwydiant ffermio a'r gwrthbleidiau wedi bod yn galw amdano.
Mae ysgrifennydd materion gwledig Llywodraeth y DU, Michael Gove wedi mynnu yn y gorffennol y byddai ffermwyr yng Nghymru yn cael "popeth sydd ei angen arnynt" ar ôl Brexit.
Mae gan ffermwyr hyd at 30 Hydref i ymateb i'r ymgynghoriad, ac mae ganddynt gyfle i "gyd-gynllunio" y cynigion terfynol yn yr hydref.
Derbyniwyd dros 12,000 o ymatebion y tro diwethaf i'r llywodraeth ofyn am farn ar ffermio ar ôl Brexit - ffigwr oedd yn record i'r adran materion gwledig.
Dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i nifer o'r pryderon gafodd eu codi gan ffermwyr ar ôl y cynnig gwreiddiol.
Fodd bynnag, rhybuddiodd y byddai dileu taliadau cymorth uniongyrchol yn seiliedig ar faint o dir sy'n cael ei ffermio yn golygu y byddai ffermwyr Cymru o dan anfantais o'i gymharu â ffermwyr eraill yn yr UE.
"Byddai'r pryder hwn hefyd yn ymwneud â chystadleuaeth gyda ffermwyr yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon pe bai'r gwledydd hynny'n cadw rhyw fath o gymorth uniongyrchol," meddai.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig, Llŷr Gruffydd fod Llywodraeth Cymru wedi "cael eu gorfodi i newid eu tôn", a hynny ar ôl "ymateb gelyniaethus" i'r ymgynghoriad blaenorol.
"Mae hefyd yn gadarnhaol bod y llywodraeth wedi derbyn yr angen i ganolbwyntio'n fwy ar wobrwyo 'ffermwyr gweithredol' a datblygu opsiynau ar gyfer capio taliadau," meddai.
Ond dywedodd cyfarwyddwr CLA Cymru, Rebecca Williams fod y cynllun newydd yn methu â chyrraedd yr hyn a ddangoswyd yng nghynllun gwreiddiol Llywodraeth Cymru, ac nid yw'n mynd yn ddigon pell i baratoi busnesau fferm ar gyfer "heriau cystadleurwydd byd-eang" ar ôl Brexit.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2019