Taliadau amaeth: Dau undeb, un neges ar Brexit
- Cyhoeddwyd
Mewn cam hynod anarferol bydd y ddau undeb amaethyddol yng Nghymru yn cynnal cyfarfod ar y cyd ddydd Mercher er mwyn amlinellu'r hyn maen nhw am ei weld yn digwydd i gymorthdaliadau i'r diwydiant ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Daw hyn yn sgil bwriad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i'r Taliad Sengl a chyflwyno system newydd o daliadau i ffermydd.
Bydd arweinwyr NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yn cwrdd yng Nghaerdydd er mwyn datgan "gweledigaeth ar y cyd".
Daw hyn cyn i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, Brexit a'n Tir, dolen allanol, ddod i ben ar 30 Hydref.
Dywed yr undebau eu bod wedi penderfynu dod at ei gilydd er mwyn pwysleisio "pwysigrwydd fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu polisi sy'n gosod sylfaen gref ar gyfer bwydydd Cymreig, cymunedau, bywoliaeth a'r amgylchedd yn y byd sydd ohoni ar ôl Brexit".
Dywedodd John Davies Llywydd NFU Cymru: "Mae NFU Cymru wedi ymroi i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid o fewn y diwydiant i ddatblygu polisïau fydd yn sicrhau dyfodol cynhyrchiol, proffidiol a blaengar i amaethyddiaeth yng Nghymru."
Ychwanegodd Glyn Roberts, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru: "Mae hwn yn adeg allweddol i'n diwydiant ac fe fydd y safiad yma, ar y cyd gyda NFU Cymru, yn dangos undod ymhlith yr undebau amaethyddol a'r angen i sicrhau ein bod gyda'n gilydd yn cael y polisi yma yn iawn, fel bod yna ddyfodol llewyrchus i'n gallu i gynhyrchu bwyd a hefyd ein hamgylchedd, diwylliant a'n hiaith."
Mae'r Ysgrifennydd Materion Gwledig Lesley Griffiths eisoes wedi yn cymryd y cam anarferol o ysgrifennu'n uniongyrchol at bob ffermwr yng Nghymru i egluro'i phenderfyniad i gael gwared ar y taliad sengl.
Beth yw'r taliadau newydd?
Bydd cynllun cadernid economaidd yn targedu buddsoddiad i gynyddu cystadleugarwch a gwneud gwelliannau i'r system o gynhyrchu bwyd. Bydd hyn yn cynnwys cefnogaeth i ddarganfod marchnadoedd newydd, i greu o'r newydd ac i amrywiaethu.
Bwriad y cynllun nwyddau cyhoeddus fydd darparu arian i ffermwyr wynebu heriau fel newid hinsawdd, risg llifogydd, colli cynefin, safon aer a dŵr gwael.
Y gobaith yw cael y cynlluniau newydd yn eu lle erbyn 2025.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod newid y drefn bresennol yn holl bwysig yn sgil Brexit.
Golygai'r penderfyniad y bydd y taliad uniongyrchol y mae ffermwyr wedi'i dderbyn ers degawdau ar sail faint o dir sydd dan eu gofal yn diflannu'n raddol o 2020.
Yn ei le mae Llywodraeth Cymru'n cynnig cyflwyno system o grantiau busnes a chronfa hefyd i wobrwyo ffermwyr am helpu'r amgylchedd.
Fis Medi fe wnaeth Ms Griffiths gyhuddo Undeb Amaethwyr Cymru o gamarwain ei haelodau ynghylch cynlluniau newydd.
Daeth hyn ar ôl i Undeb Amaethwyr Cymru annog aelodau i anfon cardiau post yn rhybuddio'r Ysgrifennydd yn erbyn disodli'r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) gyda dwy raglen arall.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018
- Cyhoeddwyd7 Medi 2018
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2018