Cynghrair Europa: Cei Connah 1-2 Kilmarnock

  • Cyhoeddwyd
Mike WildeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymosodwr Cei Connah, Mike Wilde yn dathlu'r gôl agoriadol yn erbyn Kilmarnock

Colli yn y funud olaf oedd hanes Cei Connah yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa yn erbyn Kilmarnock nos Iau.

Fe aeth Cei Connah ar y blaen wedi 75 munud ar y Belle Vue yn Y Rhyl diolch i gôl i'w rwyd ei hun gan gefnwr chwith Kilmarnock, Greg Taylor o groesiad peryglus Callum Roberts i'r cwrt cosbi.

Gyda 10 munud yn weddill roedd Cei Connah yn amddiffyn yn arwrol cyn i gamgymeriad yn y cwrt cosbi gan Roberts ar ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb arwain at gic o'r smotyn i'r ymwelwyr.

Fe sgoriodd Eamonn Brophy o'r smotyn gyda dim ond wyth munud o'r gêm yn weddill.

Gydag eiliadau'n unig ar ôl roedd Cei Connah yn credu eu bod wedi sicrhau canlyniad parchus iawn yn erbyn y tîm orffennodd yn drydedd yn Uwch Gynghrair Yr Alban y llynedd.

Ond, fe neidiodd Stuart Findlay yn uwch na neb a phenio cic gornel i'r rhwyd i sicrhau buddugoliaeth bwysig a goliau oddi-cartref i Kilmarnock cyn yr ail gymal yn Rugby Park yr wythnos nesaf.