Dau o weithwyr Mansel Davies yn gwadu ffugio cofnodion
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr-gyfarwyddwr ac un o weithwyr cwmni cludiant Mansel Davies wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ar gyhuddiadau'n ymwneud â ffugio cofnodion.
Mae Stephen Mansel Davies 57 o Lanfyrnach, Sir Benfro, yn wynebu 19 o gyhuddiadau, tra bod Jonathan Wyn Phillips, 27 o Fynachlog-ddu, Sir Benfro yn wynebu 34 o gyhuddiadau.
Mae'r cwmni cludiant o Lanfyrnach, ger Crymych yn cyflogi tua 300 o bobl.
Fe wnaeth bargyfreithiwr ar ran y ddau nodi eu bod nhw am bledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth a byddant yn ymddangos ger bron Llys y Goron Abertawe eto ar 25 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2019