Dau wedi eu harestio yn dilyn marwolaeth yn Ystalyfera
- Cyhoeddwyd

Mae fflatiau Maes y Darren wedi eu lleoli tu ôl i gae Clwb Rygbi Ystylafera
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i farwolaeth dyn 50 oed yn Ystalyfera, Cwm Tawe.
Cafodd gwasanaethau brys eu galw i fflatiau Maes y Darren am 22:35 nos Sul yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi ei anafu.
Mae dyn 48 oed a dynes 38 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae'r heddlu'n apelio ar i unrhyw un ar oedd yn ardal Maes y Darren rhwng 18:00 a 22:45 nos Sul, neu a welodd unrhyw un yn yr ardal honno, i gysylltu â nhw.

Cafodd y gwasanethau brys eu galw i fflatiau Maes y Darren nos Sul