Geraint Thomas yn ail yn Le Tour
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Geraint Thomas bellach yn ail wrth geisio amddiffyn ei deitl fel enillydd y Tour de France.
Roedd diweddglo dramatig i'r degfed cymal ddydd Llun wrth i arweinydd y ras, Julian Alaphilippe dorri'r glir o'r peloton gan synnu nifer o'r ceffylau blaen eraill.
Roedd Thomas wedi dechrau'r cymal o Saint-Flour i Albi yn y pumed safle, 1'12" y tu ôl i Alaphilippe.
Er bod y bwlch rhwng y ddau heb newid, fe gododd Thomas dri safle wrth i rhai o'r enwau mawr eraill golli tir mewn gwyntoedd cryfion.
Wout van Aert o Wlad Belg enillodd y cymal gydag Elia Viviani yn ail agos.
Wrth siarad ar ITV 4, dywedodd Thomas: "Fe ges i ddiwrnod da iawn yn y diwedd.
"Roedd pawb ond dau o'n criw ni yn y grŵp ar y blaen. Roedd rhai o'r lleill wedi colli tir wrth geisio ein dal.
"Fe wnaethon nhw gamgymeriad tactegol a cholli munud a hanner arnon ni."
Ni fydd rasio ddydd Mawrth wrth i'r Tour gymryd diwrnod o orffwys.
Canlyniad Cymal 10
1. Wout van Aert - 4 awr 49 munud 39 eiliad
2. Elia Viviani - yr un amser
3. Caleb Ewan - yr un amser
Safleoedd y GC wedi 10 cymal
1. Julian Alaphilippe - 43 awr 27 munud 15 eiliad
2. Geraint Thomas - +1 munud 12 eiliad
3. Egan Bernal - +1 munud 16 eiliad
4. Steven Kruijswijk - +1 munud 27 eiliad
5. Emanuel Buchmann - +1 munud 45 eiliad