Cyngor Gwynedd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Gwynedd

Cyngor Gwynedd yw'r awdurdod lleol cyntaf i ddatgan eu cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru.

Fe wnaeth aelodau bleidleisio dros Gymru'n troi'n wlad annibynnol er gwaetha'r i rai awgrymu y dylai aelodau ganolbwyntio ar faterion nes at adre.

Mae penderfyniad Gwynedd yn dilyn penderfyniad 17 cyngor lleol yng Nghymru sydd eisoes wedi cefnogi'r syniad.

Er mai datganiad symbolaidd yw'r bleidiais, fe gafodd y cynnig ei roi ger bron y cyngor gan gynghorydd Plaid Cymru, Nia Jeffreys.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y cynnig ei roi ger bron y cyngor gan gynghorydd Plaid Cymru, Nia Jeffreys.

Dywedodd Ms Jeffreys wrth gynghorwyr mewn cyfarfod ddydd Iau: "Rydym yn wynebu Brexit caled ac rydym wedi arfer gweld San Steffan yn chwarae gemau gwirion drwy anwybyddu Cymru.

"Maen nhw yn rhoi undod eu plaid cyn ei economi. Mi fuasai'n hawdd disgyn i bwll o anobaith ond mae 'na deimlad o newid," meddai.

Bydd rali annibyniaeth yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon ar 27 Gorffennaf.