Gorymdaith annibyniaeth yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Y dorf wrth ymyl Neuadd y Ddinas
Mae torf sylweddol wedi gorymdeithio yng Nghaerdydd fel rhan o'r ymgyrch o blaid annibyniaeth i Gymru.
Roedd mudiad YesCymru, Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg ymhlith y mudiadau yno.
Wrth annerch y dorf dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru: "Am lawer o flynyddoedd roedd ein dymuniad i weld Cymru annibynnol yn ymddangos yn bell i ffwrdd.
"Ond mae'r llanw yn troi, mae'r gorymdeithiau yn tyfu, ac mae'r lleisiau yn cryfhau."
"Mae degawdau o esgeulustod gan San Steffan wedi arwain at dlodi a diffyg buddsoddiad.
"Mae traean o'n plant yn byw mewn tlodi, ac os edrychwn ni ar anrhefn Brexit, fe allwn weld nad yw San Steffan yn ffit i lywodraethu na chynrychioli Cymru."
Bu'r ymgyrchwyr yn ymgynnull y tu allan i Neuadd y Ddinas cyn gorymdeithio trwy ganol y brifddinas.

Y dorf yn cerdded heibio Theatr Newydd Caerdydd

Yr orymdaith yn cyrraedd yr Aes yng nghanol Caerdydd