Cei Connah yn creu sioc yn Ewrop yn erbyn Kilmarnock
- Cyhoeddwyd
Mae Cei Connah wedi creu sioc ac wedi llwyddo i ennill oddi cartref yn Kilmarnock a sicrhau eu lle yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa.
Roedd Cei Connah yn colli ar gyfanswm goliau o 2-1 cyn y gêm yn Rugby Park yn dilyn buddugoliaeth Kilmarnock o 2-1 yn y cymal cyntaf ar faes y Rhyl.
Roedd y tîm llawn amser a orffennodd yn drydedd yn Uwch Gynghrair yr Alban y llynedd yn ffefrynnau clir cyn y gêm nos Iau.
Gyda Cei Connah angen sgorio dwy gôl i ennill y gêm, daeth y gyntaf diolch i beniad Callum Morris wedi 50 o funudau.
Gyda Kilmarnock yn pwyso a'r dorf yn troi'n rhwystredig gyda'r tîm cartref, fe aeth Cei Connah ddwy ar y blaen wedi 80 munud gyda Morris yn sgorio ei ail o'r noson o'r smotyn.
Yn ystod y digwyddiad cyn y gic o'r smotyn fe welodd Findlay gerdyn coch i Kilmarnock.
Gyda phum munud yn weddill o'r gêm fe gafodd asgellwr Cei Connah, Ryan Wignall ei ail gerdyn melyn o'r gêm a'i anfon o'r maes.
Ond, llwyddodd y cochion i oroesi pwysau'r tîm cartref a sicrhau buddugoliaeth hanesyddol gyda'r canlyniad yn 3-2 dros ddau gymal i Gei Connah.