Dyn yn cyfaddef sgwennu graffiti ar adeilad y Senedd

  • Cyhoeddwyd
GraffitiFfynhonnell y llun, @GregPycroft

Mae dyn o Cheltenham wedi cyfaddef i ysgrifennu graffiti hiliol ar adeilad y Senedd yng Nghaerdydd gan gynnwys y gair "bradwr".

Mae Elliot Jasper Richards-Good wedi pledio'n euog i 11 cyhuddiad o arddangos a bod a deunydd sarhaus yn ei feddiant ar 20 Ebrill.

Fe gyfaddefodd i roi posteri sarhaus i fyny a phaentio slogan o'r Swastica a'r geiriau "Nazi zone" yn ardal Grangetown o'r Brifddinas.

Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd fe gafodd Richards-Good ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.

Bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron ar 2 Awst.