Ateb y Galw: Iestyn Jones, Dros Dro

Iestyn JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Iestyn Jones, drymiwr Dros Dro - fu'n fuddugol yn yr Ŵyl Ban Geltaidd ac yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae'r band Dros Dro wedi dychwelyd o Iwerddon ar ôl cipio'r wobr am y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.

Wedi'r llwyddiant yn Cân i Gymru yn gynharach eleni, Troseddwr Yr Awr aeth â hi yn nhref Carlow hefyd.

Drymiwr y band Iestyn Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Adeiladu dyn eira gyda'm mrawd pan o'n i ryw dair neu bedair oed pan welais i eira am y tro cyntaf.

Iestyn a'i frawd gyda dyn eiraFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Profiad newydd - Iestyn gyda'i frawd mawr Gruffudd yn yr eira

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Teyrngar, caredig a phwyllog.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Pan ges i'n ethol i Senedd Ieuenctid Cymru nôl yn 2023, a chael y cyfle i eistedd yn Siambr y Senedd yn cynrychioli fy ardal i.

Mae'n bendant yn ddigwyddiad sy'n aros yn y cof fel un hapus dros ben.

Iestyn Jones tu allan i Senedd CymruFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl ei brofiad yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru, mae Iestyn bellach yn astudio Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Tra ro'n ni mas yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yr wythnos ddiwetha', daeth Gwyddel ata i yn siarad Cymraeg rhugl, a'r unig air Gwyddelig ro'n i'n gwybod oedd Sláinte! Felly fydda i cant y cant yn ymarfer mwy ar gyfer y tro nesaf!

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm neu albwm a pham?

 bod yn hollol onest, does dim rili hoff lyfr, ffilm neu albym gen i, ma'n tâst i'n newid yn gyson – o lyfrau gwleidyddol i lyfrau ffuglen, ffilms digri i ffilms dogfen ac o roc i jazz!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Siŵr o fod noson Cân i Gymru – falle fydden i ddim yn gweud "crio" ond yn bendant daeth ambell i ddeigryn i'r llygaid. Lot o emosiynau gwahanol yn dod i'r wyneb!

Dros DroFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Band o Sir Gâr ydy Dros Dro, ac yn gyn-ddisgyblion Ysgol Maes y Gwendraeth ac Ysgol Bro Myrddin

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Gwastraffu amser! Dwi'n trio fy ngorau i wella ar hwn, ond tra'n ysgrifennu traethodau prifysgol mae'r demtasiwn i gael pip cloi ar y ffôn gan amlaf yn troi yn hanner awr o sgrolio!

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Mae noson Cân i Gymru tuag at y top, ond fi'n amau roedd y noson enillon ni wobr cystadleuaeth y gân orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd jyst yn dod i'r brig.

Roedd ein teuluoedd ni i gyd mas yn Iwerddon gyda ni, felly ar ôl y gystadleuaeth aethon ni i gyd gyda'n gilydd i Tully's Bar yng nghanol Carlow i ddathlu'r fuddugoliaeth. Ro'dd pawb 'na, o'r rhai 10 oed i 80 – pawb yn joio gyda'n gilydd.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Clwb criced RhydamanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Clwb criced Rhydaman

Fy hoff le yw ble bynnag dwi'n cael y cyfle i rannu llwyfan gyda phum ffrind a chwarae ein cerddoriaeth yn fyw a gweld pobl yn dawnsio! Ond o ran lle penodol personol, cae criced Rhydaman ar brynhawn ddydd Sadwrn braf yn chwarae i dîm y dre'.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi'n cael diod a pham?

Michael Eavis. Fydden i'n gofyn yn garedig os oes slot i'r band ar Pyramid Stage Glastonbury – 'legend slot' will do, ond hapus i 'whare unrhyw lwyfan arall wrth gwrs!

Torf GlastonburyFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

"Rhowch groeso i... Dros Dro!" Y flwyddyn nesaf efallai - llun o'r dorf yn Glastonbury yn 2024

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n hyfforddwr criced cymwysedig, ac yn dechrau ar fy ail dymor o hyfforddi tîm dan 13 clwb criced Rhydaman.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi'n ei wneud?

Brecwast mawr gyda'r teulu, gêm o griced ym mharc Rhydaman a gig gyda Dros Dro yn y nos – headlino Llwyfan y Maes neu Maes B efallai!

Pa lun sy'n bwysig i chi a pham?

Y band Dros Dro gyda'u teuluoeddFfynhonnell y llun, Yr Wŷl Ban Geltaidd
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu ennill y wobr am y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn nhref Carlow ar Ebrill 25, 2025

Dyma lun o'r band a'n teuluoedd ni wedi i ni ennill mas yn Carlow. Pawb a'r bobl bwysicaf iddyn nhw mewn un man.

Petasech chi'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Dwlen i fod yn fy mrawd i, jest er mwyn profi pa mor awesome yw e i gael fi fel brawd – gutted fyddai byth yn gwbod siwd mae e'n teimlo!

Ond i fod yn gwbl onest, dwi ddigon hapus gyda phwy ydw i felly fydden i ddim ishe bod yn unrhyw un arall.

Pynciau cysylltiedig