'Dathliadau VE yn anodd i'n teulu ni wedi i ni golli Dylan'

Bu farw Dylan Jones o Sir Gâr yng Ngorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd
Wrth i ddigwyddiadau gael eu cynnal ar draws Cymru i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE, sef diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop, dywed teulu o Lansawel ger Llandeilo bod gwylio unrhyw ddigwyddiadau cysylltiedig â'r lluoedd arfog yn hynod o anodd.
Ddechrau Gorffennaf 2015 bu farw Dylan Jones, a fu'n filwr yn Afghanistan ac Irac, drwy hunanladdiad.
"Roedd bywyd mor anodd iddo fe wrth iddo ddioddef o PTSD wedi blynyddoedd caled yn y fyddin," meddai ei chwaer Amanda Jones wrth siarad â Cymru Fyw.
"Yr wythnos hon ynghanol dathliadau VE bydd nifer yn gofyn, pobl fel teulu ni, pam dathlu ar ôl beth y'n ni wedi bod trwyddo?"

Roedd colli ei brawd yn ergyd anferth, medd Amanda Jones
Ers yn blentyn roedd Dylan â'i fryd ar fynd i'r fyddin. "Do'dd e ddim am 'neud dim arall," meddai ei chwaer Amanda Jones.
Fe fuodd yn rhan o'r fyddin am dros 20 mlynedd gan ymuno â'r lluoedd arfog pan yn 17.
"Ro'dd e methu gadael. Fuodd e mewn a mas ryw dair gwaith. O'dd Dylan yn gweld e'n anodd i fod allan - 'na pam o'dd e'n cadw mynd nôl.
"Rhywffordd er bod e'n fachgen poblogaidd, o'dd e methu ymuno 'nôl mewn 'da bois y pentre. 'Na i gyd o'dd e'n gwybod am o'dd bywyd yn y fyddin - ac fe fuodd yno tan o'dd e'n 34.
"Fuodd e'n Afghanistan sawl gwaith ac hefyd yn Irac - ar y diwedd roedd e'n bodyguard ar yr oil barrels."

Dylan Jones, bythefnos cyn ei farwolaeth yn 2015
Ychwanega Amanda Jones nad oedd hi'n gwybod dim am gyflwr anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) yn ystod ei ddyddiau yn y fyddin, ond wedi iddo adael ei bod hi'n amlwg ei fod yn byw â'r cyflwr.
"Roedd e'n cael flashbacks o hyd - ac o'n i'n clywed amdano yn eistedd yn y clawdd yn siarad â'i hunan wrth iddo gredu bod y gelyn yn dod yn nes.
"Byddai fe wedyn yn jwmpo mas o'i groen petai e'n clywed plant yn byrstio balŵns neu rhywun yn slamo drws.
"Ar y pryd o'n i ddim yn teimlo bod digon o gefnogaeth ar gael i rai sy'n gadael y fyddin - mae nifer o'r rhai oedd yn yr un sgwad â Dylan wedi marw yn yr un ffordd ag e.
"Fe gafodd e ddiagnosis o PTSD ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth. Ro'dd e wedyn ar restr aros pum mis am driniaeth.
"Ro'dd mynd at y doctor yn gam mawr - do'dd e ddim am siarad am ei brofiadau."

Gefeilliaid Dylan - Faith a Malachai - a'u cefnder Morgan yn y canol
Bu farw Dylan Jones ar 4 Gorffennaf 2015 yn 37 oed - roedd yn dad i dri o blant.
"Roedd clywed y newyddion yn sioc anferth i ni gyd a'r peth gwaethaf fi wedi gorfod 'neud erioed o'dd dweud wrth y plant. Roedd y plant ieuengaf - efeilliaid - ond yn wyth oed," ychwanegodd Amanda Jones.
"Doedd dim sbel ers i ni golli fy nhad a bu'n rhaid i Mam ddelio gyda cholli gŵr a mab mewn cyfnod byr."
Fis Gorffennaf eleni bydd Malachai, mab Dylan, yn cerdded mynydd Pen-y-fan i nodi 10 mlynedd ers ei farwolaeth gan godi arian at elusennau Veterans Cymru a Scott's Little Soldiers - elusennau sy'n helpu iechyd meddwl aelodau o'r lluoedd arfog a'u teuluoedd.
"Does dim atebion 'da ni am be' sy wedi digwydd a fydd 'na ddim.
"Ni'n beio'n hunain. Ni'n holi pam bo ni ddim wedi gofyn mwy ond o'dd e methu byw.
"Odi mae'n 10 mlynedd a dyw e ddim yn mynd yn rhwyddach."
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2022
Gydol yr wythnos bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru i nodi 80 mlynedd ers diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop ar 8 Mai 1945.
"Mae angen cofio bod digwyddiadau fel hyn yn hynod o anodd i nifer - yn sicr i'n teulu ni ers colli Dylan.
"Hefyd os oes stori am hunanladdiad neu'r lluoedd arfog mewn opera sebon allwn ni ddim gwylio.
"Heb os, bydd yr wythnos 'ma yn anodd iawn i ni gyd ac i nifer o deuluoedd eraill."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC