Oedi i wasanaethau trên yng Nghaerdydd yn dilyn tân ger y traciau

Mae disgwyl i'r trafferthion barhau tan o leiaf 17:00 brynhawn Sul
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o wasanaethau trên yng Nghaerdydd wedi cael eu gohirio neu eu canslo yn dilyn tân ger y traciau.
Y gred yw bod y tân mewn is-orsaf drydan rhwng Casnewydd a gorsaf Caerdydd Canolog wedi difrodi ceblau a signalau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad, tra bod gweithwyr Network Rail hefyd yn ymateb i'r sefyllfa.
Mae gwasanaethau yn lle trên yn cael eu trefnu, ond mae disgwyl i'r trafferthion barhau tan ddiwedd y dydd.
Yn ôl Network Rail, mae'r gwasanaethau canlynol wedi eu heffeithio:
Gwasanaeth Great Western Railway rhwng London Paddington a Chaerdydd Canolog / Abertawe / Caerfyrddin
Gwasanaeth Great Western Railway rhwng Penzance a Chaerdydd Canolog
Gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru rhwng Caergybi a Chaerdydd Canolog
Gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru rhwng Manchester Piccadilly ac Abertawe / Aberdaugleddau