Geraint Thomas yn colli tir yn y Tour de France
- Cyhoeddwyd
Yng nghymal 14 o'r Tour de France ni lwyddodd Geraint Thomas i gau'r bwlch ar yr arweinydd Julian Alaphilippe.
Wrth i'r ras symud i fynyddoedd y Pyrenees, roedd 117km yn wynebu'r seiclwyr rhwng Tarbes a Tourmalet Barèges.
Bwriad Thomas oedd ceisio cau'r bwlch rhyngddo ef ac arweinydd y ras eleni Julian Alaphilippe.
Ond fe ddechreuodd y Cymro flino a methodd adael cefn y peloton gydag ychydig gilomedrau'n weddill.
Fe groesodd Alaphilippe y llinell derfyn yn ail y tu ôl i enillydd y cymal Thibaut Pinot, a daeth Thomas fewn yn wythfed, 36 eiliad y tu ôl i Alaphilippe.
Ar y cyfan mae Thomas yn parhau'n ail, dwy funud a dwy eiliad y tu ôl i Alaphilippe.
Bydd yr ail ras yn y Pyrenees a chymal 15 o'r Tour yn digwydd ddydd Sul, pan fydd 185km yn wynebu'r seiclwyr rhwng Limoux a Prat d'Albis.