Heddlu'n ymchwilio i achos o lofruddiaeth yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth ar ôl i ddyn gael ei drywanu yng nghanol Caerdydd.
Fe gafodd swyddogion eu galw i Heol Eglwys Fair am tua 04:50 fore Sul yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.
Mae swyddogion yr heddlu'n parhau i fod yn yr ardal ac mae hofrennydd yr heddlu hefyd yn bresennol wrth i ymchwiliadau barhau.
Er nad yw'r dyn wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, credir mai dyn 21 oed o ardal Gangetown sydd wedi cael ei ladd.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau fod llygaid dystion wedi gweld person yn mynd i gyfeiriad Wood Street ac wedyn Stryd Penarth y tu ôl i'r orsaf reilffordd yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd, Richard Jones: "Mae dyn ifanc wedi colli ei fywyd yn oriau mân fore Sul ac rydym yn gwneud popeth i ddal y person sy'n gyfrifol.
"Mae lluniau CCTV yn dangos ffrwgwd yn digwydd yn y stryd ger McDonalds ac yn symud tuag at Oxfam ble mae'r dioddefwr yn disgyn ar ôl cael ei drywanu."
Mae'r heddlu yn apelio am unrhyw wybodaeth all gynorthwyo eu hymchwiliad.