Bale yn 'agos iawn' at adael Real Madrid medd ei reolwr
- Cyhoeddwyd
Mae ymosodwr Cymru, Gareth Bale yn "agos iawn at adael" Real Madrid yn ôl rheolwr y clwb Zinedine Zidane.
Roedd Bale yn absennol o dîm Real a gollodd 3-1 mewn gêm cyn dymor yn erbyn Byern Munich yn America ddydd Sadwrn.
Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd Zidane: "Rydym yn gobeithio y bydd yn gadael yn fuan, dyna fyse orau i bawb. Rydym yn gweithio ar ei symudiad i dîm arall.
"Does gennai ddim byd personol yn ei erbyn, ond mae amser yn dod pan mae'n rhaid gwneud pethau oherwydd mae'n rhaid i bethau cael eu gwneud," meddai.
Mae gan Bale dair blynedd ar ôl ar ei gytundeb gyda'r clwb ble mae wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith ers iddo symud o Spurs am £85m yn 2013.
Mae Bale wedi cael ei gysylltu gyda Manchetser United a Spurs, pencampwyr yr Almaen, Byern a hefyd clybiau yn China.
Mae anafiadau wedi bod yn broblem i Bale dros y blynyddoedd ac mae ond wedi chwarae 79 o weithiau i Real yn y pedwar tymor diwethaf.
Er gwaethaf sylwadau Zidane, dywedodd asiant Bale, Jonathan Barnett ym mis Mawrth fod y chwaraewr yn "hapus iawn" ac eisiau "treulio ei holl yrfa" yn chwarae i'r clwb.
Ychwanegodd Zidane: "Mae'n rhaid i mi wneud penderfyniadau. Mae'n rhaid i ni newid. Penderfyniad yr hyfforddwr a'r chwaraewr yw pan mae chwaraewr yn gadael, pwy a wyr beth yw'r sefyllfa?
"Fe fydd y sefyllfa'n newid, dwi ddim yn siŵr o fewn y 24 neu'r 48 awr nesaf, ond mi wneith, ac mae'n beth da i bawb," meddai.
Yn ogystal â phedair Cynghrair y Pencampwyr, mae Bale hefyd wedi ennill pencampwriaeth La Liga, y Copa del Rey, y Super Cup dair gwaith a Chwpan Clybiau'r byd yn ystod ei gyfnod yn Sbaen.