Thomas yn brwydro'n ôl a chau'r bwlch ar y crys melyn

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Cymro Geraint Thomas wedi llwyddo i frwydro'n ôl o'r siom ddydd Sadwrn ac wedi cau'r bwlch ar arweinydd y Tour de France, Julian Alaphilippe.

Fe orffennodd Thomas gymal 15 o'r ras yn y seithfed safle ddydd Sul a llwyddo i gau'r bwlch rhyngddo ef ac Alaphilippe i 32 eiliad.

Mae Thomas yn parhau'n ail ar y cyfan ond mae'r bwlch rhyngddo ef a Thibaut Pinot sy'n drydydd lawr i 15 eiliad.

Simon Yates enillodd y cymal ym mynyddoedd y Pyrenees a nawr fe fydd y Seiclwyr yn gorffwys cyn cymal 16 ddydd Mawrth.