Ymgynghori ar yr her o ddatblygu sector bwyd a diod Cymru

  • Cyhoeddwyd
Swshi Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Rhiannon a Siôn Tansley eu busnes Swshi Cymru yn eu cartref yn Llwynygroes, Ceredigion, yn 2017

Datblygu busnes a hyrwyddo Cymru fel gwlad bwyd ydy pwrpas cynllun newydd ar gyfer y diwydiant bwyd a diod a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth.

Yn ôl y llywodraeth mae'r cynllun presennol, sydd wedi bodoli ers 2013, eisoes wedi caniatáu i'r diwydiant yng Nghymru gyrraedd trosiant o £7bn, a'r bwriad nawr ydy edrych ar sut mae modd datblygu'r sector ymhellach.

Fe fyddan nhw'n gofyn i gynhyrchwyr sut mae modd cyflawni tri nod allweddol fel rhan o ymgynghoriad - datblygu busnes, sicrhau budd i bobl a chymdeithas, a hyrwyddo Cymru fel gwlad bwyd.

Bydd y cynllun newydd yn weithredol rhwng 2020-2026.

'Ishe ychydig o help'

Eleni yw'r tro cyntaf i Siôn a Rhiannon Tansley gymryd stondin yn y Neuadd Fwyd yn y Sioe Fawr er mwyn gwerthu eu cynnyrch Swshi.

Mae'r ddau wedi cyfuno eu profiad yn y sector bwyd a chynnyrch lleol yng Nheredigion i greu busnes sydd bellach yn cyrraedd cwsmeriaid yn Lloegr yn ogystal â dros Gymru.

"Fe gethon ni lawer o gymorth gan Cywain ar ddechre'r busnes, ac maen nhw wedi rhoi llawer o wybodaeth i ni ac arweiniad," meddai Mr Tansley.

Daeth y ddau i arddangos eu cynnyrch yn y Neuadd Fwyd y llynedd, ac erbyn eleni mae'r pâr wedi ymrwymo i 60 diwrnod o werthu mewn gwyliau bwyd.

"Roedd un diwrnod o arddangos y llynedd wedi profi'n werthfawr iawn i ni, ac ers hynny rydyn ni wedi tyfu'n organig, gan ymateb i'r galw gan y cwsmeriaid, sy'n beth gwych i ni.

"Er mwyn datblygu ein busnes ymhellach fe fydden ni'n hoffi cael mwy o gymorth gyda datblygu ein hochr marchnata, achos mae angen i ni ddysgu mwy o sgiliau yn y rhan yna o'r busnes, ac fe fyddai hynny o fudd mawr i ni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cig oen yn un o brif allforion bwyd Cymru

Yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, nod y cynigion yw "creu sector cryf a ffyniannus sy'n cael ei gydnabod ledled y byd am ei ragoriaeth", a sicrhau fod yng Nghymru rhai o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn y byd ar lefel amgylcheddol a chymdeithasol.

"Mae ansicrwydd a heriau'n ein hwynebu yn sgil Brexit, ond mae'n sector bwyd a diod yn dechrau o le da," meddai.

"Bydd Brexit yn amharu'n sylweddol arnom ni ‒ mae'n hollbwysig ein bod yn goresgyn yr heriau a fydd yn ein hwynebu, er enghraifft, sut i wella cynhyrchiant, sut i ddenu gweithlu ac i fuddsoddi ynddo, a sut i sicrhau bod ein rhwydweithiau a'n systemau'n fwy cadarn mewn byd ansicr."

Caiff yr ymgynghoriad ei lansio ar faes y Sioe Fawr ddydd Mawrth.