Rhybudd melyn am stormydd o daranau ym mwyafrif Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae dydd Mawrth yn argoeli i fod y diwrnod poethaf yng Nghymru eleni, gyda rhagolygon o dymheredd hyd at 31C (87.8F).
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau fydd yn berthnasol i bob sir yng Nghymru, heblaw am Sir Benfro.
Bydd y rhybudd melyn yn dod i rym am 18:00 ac yn parhau tan 09:00 fore Mercher.
Yn ôl y rhagolygon mae tymheredd o 28C yn debygol ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
'Recordiau newydd yn bosib'
Cafodd y tymheredd uchaf yng Nghymru hyd yma eleni - 29.9C - ei gofnodi ym Mrynbuga, yn Sir Fynwy ar 29 Mehefin.
35.2C yw'r tymheredd uchaf erioed yng Nghymru a hynny ym Mhont Penarlag ar 2 Awst 1990.
Wrth iddi boethi yn gyffredinol ar draws y DU ddydd Mawrth, mae'r Swyddfa Dywydd yn darogan y posibilrwydd y bydd recordiau newydd yn cael eu cofnodi ar gyfer y tymheredd dros nos uchaf.
Wrth i'r stormydd ledu o'r de i'r gogledd, fe allai mellt, cenllysg, cawodydd o law trwm a gwyntoedd cryf achosi toriad yng nghyflenwadau trydan a gwasanaethau eraill.
Mae disgwyl i'r cawodydd glirio wrth iddi wawrio ddydd Mercher a thywydd mwy cymedrol yn y prynhawn, ond mae disgwyl tymereddau uchel eto ddydd Iau wrth i aer poeth iawn ledu o'r de.