Gallai claf canser 'fod wedi goroesi'
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr wedi dweud y gallai dynes o Wynedd fod wedi goroesi cymhlethdodau cemotherapi a'i lladdodd bron 25 mlynedd yn ôl.
Bu farw Siaron Bonds, 26 o Lanrug, o syndrom ATLS (Acute Tumour Lysis Syndrome) wedi i gymhlethdodau godi wrth iddi gael triniaeth cemotherapi ym Medi 1994.
Cafodd yr arbenigwr gwaed Dr Chris Miller gais gan y crwner i adolygu'r dystiolaeth yn yr achos fel tyst arbenigol.
Dywedodd wrth y cwest na fyddai Siaron Bonds wedi marw pe byddai rhai pethau wedi cael eu gwneud yn wahanol.
Ni chafodd Ms Bonds brawf gwaed ar fore Iau, 8 Medi 1994 na'r peth cynta fore Gwener, 9 Medi. Byddai'r profion wedi dangos ei bod yn diodde' o ATLS.
Dywedodd Dr Miller: "Pe byddai wedi cael profion gwaed yn amlwch a chael ei monitro'n amlach byddai hynny wedi effeithio ar y canlyniad.
"Mae'n debygol yn fy marn i y byddai wedi goroesi pe byddai wedi derbyn y therapi gorau fel y disgrifiais."
'Ddim yn cofio'
Yn gynharach fe ddywedodd ymgynghorydd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor wrth y cwest nad yw'n cofio dweud wrth fam claf â chanser ei bod yn cyfogi oherwydd gorbryder, oriau cyn iddi farw.
Mewn tystiolaeth i'r gwrandawiad ddydd Llun, dywedodd ei mam, Nerys Bonds, bod yr Athro Nick Stuart wedi awgrymu taw gorbryder oedd wedi achosi iddi gyfogi dros nos pan gododd bryderon drannoeth gyda'r ymgynghorydd.
Ond fe ddywedodd yr Athro Stuart wrth y cwest ddydd Mawrth bod ganddo fawr o gof ynghylch y sgwrs dan sylw.
"Dydw i ddim yn cofio dweud hynny, er roeddwn wedi nodi yng nghofnodion Siaron ei bod yn ferch ifanc bryderus," dywedodd. "Roedd hynny yn hollol ddealladwy.
"Dydw i ddim yn meddwl fy mod wedi priodoli popeth i orbryder [ond yn hytrach] cyfogi o ganlyniad i'r cemotherapi gyda gorbryder yn fater eilradd."
Cafodd Miss Bonds ddiagnosis o ATLS tua 13:45 yr un diwrnod.
Roedd wedi cyrraedd Ysbyty Gwynedd ar 7 Medi 1994 am driniaeth radd uchel at fath o lymphoma a bu farw yn y prynhawn ddeuddydd yn ddiweddarach.
Prawf gwaed brys
Mae'r cwest yn digwydd bron i 25 mlynedd wedi'r farwolaeth o ganlyniad i dystiolaeth newydd sydd wedi dod i law, ac oherwydd newidiadau cyfreithiol ynghylch sut a phryd y mae cwestau'n cael eu cynnal.
Dywedodd yr Athro Stuart ei fod wedi gorfod gorchymyn prawf gwaed brys oriau cyn i Miss Bonds farw, yn ystod yr adolygiad boreol o amgylch y ward ar ôl darganfod methiant i wneud hynny eisoes.
"Ro'n i'n teimlo bod hynny'n ddarn allweddol o wybodaeth," meddai.
"Petai profion gwaed wedi eu cynnal dwy awr ynghynt, fe allai hynny wedi gwneud hi'n bosib cael diagnosis ddwy awr ynghynt ac fe ellir fod wedi gweithredu yn gynt."
Daeth adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn 2008, dolen allanol i'r casgliad fod y gofal i Miss Bonds yn 1994 yn "annigonol" a bod "cyfres o gamgymeriadau gan staff wedi cyfrannu'n uniongyrchol at ei marwolaeth".
Cytunodd yr Athro Stuart bod y gofal "yn is na'r safon dderbyniol" ond dywedodd nad oedd yn derbyn holl argymhellion yr adroddiad.
"Roedd y profion gwaed a fethwyd yn fethiant yn y gofal," meddai.
"Dylai'r ysbyty fod wedi cael system i sicrhau eu bod yn cael eu gwneud. Doedd arsylliadau nyrsio ddim yn cael eu gwneud mor fuan ag y gallan nhw ddigwydd."
Mae cyfreithiwr ar ran y teulu Bonds, Chaynee Hodgetts, wedi dweud y dylai'r cwest gofnodi canlyniad sy'n dweud bod yr ysbyty wedi bod yn esgeulus yn eu gofal am Siaron Bonds.
Ond dywedodd Sara Sutherland ar ran y bwrdd iechyd nad oedd y lefel yma o fethiant wedi cael ei brofi gan y dystiolaeth.
Bydd y cwest yn parhau ddydd Mercher, 24 Gorffennaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2019