Tywydd poeth: Canslo trenau ac oedi pellach yn bosib
- Cyhoeddwyd
Gallai fod oedi i drenau rhwng Caerdydd a Llundain ddydd Iau oherwydd perygl y gallai'r tywydd poeth effeithio ar y rheilffyrdd.
Mae'r rhagolygon yn awgrymu y gallai'r tymheredd gyrraedd 39C yn ne Lloegr - fyddai'r tymheredd poethaf erioed yn y DU.
Yng Nghymru mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 30C.
Mae Great Western Railway (GWR) wedi canslo trenau rhwng Llundain, Caerdydd ac Abertawe, ac mae cyfyngiadau cyflymder mewn grym i amddiffyn y rheilffyrdd.
Dywedodd Network Rail bod y tymheredd ar y rheilffyrdd yn gallu bod 20 gradd yn uwch na thymheredd yr aer.
Mae 'na berygl y gallai'r traciau blygu neu gael eu difrodi yn y fath amodau.
Dywedodd GWR y bydd rhai gwasanaethau rhwng Paddington a Chaerdydd Canolog yn gorffen yng ngorsaf Bristol Parkway yn hytrach na theithio i Gasnewydd a Chaerdydd.