Dioddefwr sgandal gwaed fu farw wedi'i alw'n 'ddwl'
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad wedi clywed sut i ddyn a oedd wedi'i heintio â HIV a hepatitis C gael ei ddisgrifio gan ymddiriedolaeth fel person "dwl" wrth iddo frwydro am gyfiawnder.
Bu farw Haydn Lewis yn 2010 ar ôl datblygu canser yr afu yn deillio o hepatitis C, ac roedd hefyd â HIV.
Roedd ei frawd Gareth hefyd wedi derbyn cynnyrch gwaed oedd wedi'i heintio a bu farw yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn.
Mewn e-bost, fe alwodd Peter Stevens o Ymddiriedolaeth Macfarlane teulu Mr Lewis fel "llwyth o gwynwyr".
Cafodd yr ymddiriedolaeth ei sefydlu gan Lywodraeth y DU yn 1988 i gefnogi haemoffiliacs.
'Busneslyd'
Ond fe glywodd ymchwiliad i'r sgandal gwaed heintiedig am e-byst gan Mr Stevens a oedd yn disgrifio tacteg oedd yn cael ei ddefnyddio i gadw iawndal oddi wrth teulu Mr Lewis yn fwriadol er mwyn eu cythruddo.
Dywedodd Mr Stevens mewn e-bost i aelod arall o'r ymddiriedolaeth ei bod hi'n "rhwystredig fod rhywun mor ddwl yn gallu dod i fyny gydag awgrymiadau mor fusneslyd".
Cafodd Ymddiriedolaeth Macfarlane ei ddiddymu dwy flynedd yn ôl gyda'i waith yn cael ei drosglwyddo i gyrff eraill.
Wrth roi tystiolaeth i'r ymchwiliad yng Nghaerdydd, dywedodd gwraig Haydn, Gaynor Lewis, ei fod wedi bod yn benderfynol i ganfod y gwir am y sgandal, yn enwedig ar ôl clywed hanes marwolaeth y bachgen saith oed, Colin Smith, yn 1990.
Clywodd yr ymchwiliad fod Haydn, o Gaerdydd, wedi cael gwybod am ei ddiagnosis ym mis Chwefror 1985, er iddo gael prawf positif am y cyflwr ym mis Gorffennaf 1984 heb gael gwybod.
Fe gafodd ei wraig hefyd HIV, er bod y cwpl yn defnyddio dulliau atal cenhedlu ar ôl diagnosis Haydn yn 1985.
Dywedodd Mrs Lewis: "Fe wnaeth [ei diagnosis] ei ddifrodi. Gwelais newid ynddo o'r diwrnod hwnnw. Roedd yn teimlo'n euog ac roedd yn teimlo'n ofnadwy.
"Roeddwn i'n amlwg wedi fy ninistrio hefyd. Roedd gen i blant bach. Roedden ni'n ceisio bwrw ymlaen mor dda â phosibl."
Ychwanegodd eu bod wedi wynebu stigma am eu cyflwr ac roedd pobl hyd yn oed wedi ymosod arnyn nhw.
Dim ond saith mis ar ôl marwolaeth Haydn, bu farw ei frawd Gareth ym mis Rhagfyr 2010 ar ôl strôc.
Roedd wedi cael diagnosis o HIV yn 1984, a hepatitis C yn 1993.
'Darlun cyson iawn'
Yn ei sylwadau cloi ddydd Gwener, dywedodd y cadeirydd Syr Brian Langstaff: "Mae hyn yn nodi diwedd y cyfnod hwnnw, ond nid yw'n ddiwedd i ni gymryd tystiolaeth gan y rhai sydd wedi'u heintio neu eu heffeithio. Ddim o bell ffordd.
"Nid oes gennym lawer o amser, rydym wedi gweld yn y dystiolaeth yr wythnos hon, ein bod wedi cael ein hatgoffa y bydd rhywun yn marw bob pedwar diwrnod a dyna'r bobl rydyn ni'n eu hadnabod - efallai nad ydym yn gwybod am bawb sydd wedi dioddef o hepatitis C, oherwydd efallai nad ydyn nhw'n gwybod eu hunain."
Ychwanegodd fod "gwerth" o fynd â'r ymchwiliad y tu allan i Lundain oherwydd y "gwahaniaethau" o amgylch y DU.
Dywedodd fod themâu wedi cael eu datgelu ledled y DU gan ddangos "darlun cyson iawn", ac ychwanegodd ei fod yn "sicr" y bydd mwy o dystiolaeth yn dod i'r amlwg.
Bydd y gwrandawiad nesaf yn cael ei gynnal yn Llundain ar 8 Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2019