Thomas yn colli amser wrth i dywydd effeithio'r Tour de France

  • Cyhoeddwyd
Bernal mewn melynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Egan Bernal yw'r ffefryn clir i ennill Le Tour eleni erbyn hyn

Collodd Geraint Thomas amser ar ei gyd-seiclwr o Dîm Ineos, Egan Bernal, wrth i gymal 19 o'r Tour de France gael ei stopio 20km o'r diwedd oherwydd y tywydd.

Roedd Thomas a Bernal wedi ymosod yn eu tro wrth i arweinydd y ras ar ddechrau'r dydd, Julian Alaphilippe, arafu yn yr Alpau brynhawn Iau.

Bernal, 22, oedd y cyntaf i frig y Col de l'Iseran ac roedd yn ymestyn ei fantais cyn i reolwyr y ras ddod â'r cymal i ben oherwydd amodau peryglus ar y ffordd i Tignes.

Penderfynodd y trefnwyr y byddai amseroedd y beicwyr ar ben y Col de l'Iseran yn cael eu cymryd fel yr amseroedd terfynol.

Mae'n golygu bod Bernal yn cymryd y crys melyn cyn y diwrnod olaf o rasio cystadleuol ddydd Sadwrn.

Mae ganddo fantais o 48 eiliad dros Alaphilippe yn yr ail safle, ac mae Geraint Thomas 18 eiliad ymhellach ar ei hôl hi yn drydydd.

Cefnogi Bernal 'yn llwyr'

Wedi'r cymal, dywedodd Thomas y byddai'n cefnogi Bernal "yn llwyr" yn y cymal nesaf.

"Mae Egan mewn melyn felly y peth pwysig ydy ei fod o'n gorffen y job," meddai.

Wrth ymateb i'r tywydd ddydd Gwener, dywedodd ei fod "allan o reolaeth pawb".

"Y prif beth ydy bod ganddon ni'r crys [melyn] yn y tîm nawr. Rydyn ni mewn sefyllfa gret."

Bernal nawr yw'r ffefryn ar gyfer y fuddugoliaeth cyn cymal 20 rhwng Albertville a Val Thorens ddydd Sadwrn.