Egan Bernal i ennill y Tour de France, Thomas yn ail
- Cyhoeddwyd

Geraint Thomas (ar y dde) yn llongyfarch Egan Bernal wrth iddynt groesi'r llinell derfyn ddydd Sadwrn
Mae Egan Bernal ar fin ennill y Tour de France eleni - a'r disgwyl yw y bydd y Cymro Geraint Thomas yn gorffen yn ail.
Er bod un cymal ar ôl, mae'r cymal olaf yn wahanol i weddill y Tour, gyda thraddodiad nad oes unrhyw un yn herio'r cystadleuydd sydd yn y crys melyn.
Roedd Bernal, 22, yn gwisgo'r crys melyn ar ddechrau'r cystadlu ddydd Sadwrn, gyda'r cymal wedi'i gwtogi oherwydd pryderon am y tywydd.
Llwyddod y gŵr o Golombia - sydd, fel Thomas, yn aelod o Dîm Ineos - i ymestyn ei fantais ddydd Sadwrn. Vincenzo Nibali enillodd y cymal.
Mae gan Bernal fantais o funud a 11 eiliad dros Thomas yn yr ail safle, gyda Steven Kruijswijk yn drydydd.
Mae'r Ffrancwr Julian Alaphilippe - a oedd wedi arwain y ras am gyhyd - wedi llithro lawr i'r pumed safle.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.