Ymchwilio i dwyll honedig yn ymwneud â Phrifysgol Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r heddlu wedi archwilio sawl cyfeiriad fel rhan o ymchwiliad i lwgrwobrwyo honedig yn ymwneud â phrifysgol yng Nghymru.

Yn ôl yr heddlu, mae swyddogion Tarian - uned sy'n arbenigo mewn troseddu cyfundrefnol - wedi archwilio safleoedd yn Abertawe, Sir Gâr a Chaint.

Cafodd wyth o gyfeiriadau eu harchwilio - pedwar yn ardal Heddlu De Cymru, tri yn ardal Dyfed-Powys ac un yng Nghaint.

Cafodd y gwarantau chwilio eu cymeradwyo ar ôl i Brifysgol Abertawe wneud cwyn i'r Swyddfa Twyll Difrifol yn hwyr yn 2018.

Ni chafodd unrhyw un ei harestio ond mae offer trydanol a nifer o ddogfennau wedi cael eu cymryd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod yr ymchwiliad "cymhleth" yn parhau.

Mewn neges at staff fore Mercher dywedodd prif swyddog gweithredol y brifysgol, Andrew Rhodes eu bod yn disgwyl yr archwiliadau ac nad oedden nhw "o ganlyniad i ddatblygiadau newydd neu ddiweddar".

Dywedodd y brifysgol mewn datganiad ar wahân eu bod yn "parhau i gydweithredu gyda'r awdurdodau mewn cysylltiad â'r mater".