Osian Roberts yn gadael tîm hyfforddi Cymru am Moroco

  • Cyhoeddwyd
Osian RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Osian Roberts wedi bod yn is-reolwr i Ryan Giggs gyda'r tîm cenedlaethol

Mae Osian Roberts wedi gadael ei rôl fel is-reolwr tîm pêl-droed rhyngwladol Cymru er mwyn cymryd swydd gyda thîm cenedlaethol Moroco.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Moroco ei fod wedi arwyddo cytundeb pum mlynedd i fod yn gyfarwyddwr technegol o fis Medi.

Roedd Roberts, 54, wedi bod yn is-reolwr i Ryan Giggs gyda'r tîm cenedlaethol yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr technegol Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Roedd wedi bod â'r tîm cenedlaethol ers 2010, a bu'n rhan flaenllaw o lwyddiant Cymru yn Euro 2016, ble cyrhaeddon nhw'r rownd gynderfynol.

Dan arweiniad Roberts fe wnaeth y gymdeithas bêl-droed sefydlu cyrsiau hyfforddi lwyddodd i ddenu sêr y gamp, fel Patrick Vieira, Thierry Henry a Mikael Arteta.

Roedd y gŵr o Fôn hefyd yn gyfrifol am drawsnewid y strwythur datblygu chwaraewyr, sydd wedi cynhyrchu chwaraewyr fel Harry Wilson, David Brooks ac Ethan Ampadu yn y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Osian Roberts yn rhan flaenllaw o lwyddiant Cymru yn Euro 2016 gyda Chris Coleman

Fe gafodd Roberts gyfweliad ar gyfer swydd rheolwr Cymru, cyn i Giggs gael ei benodi.

Ond fe wnaeth Giggs benderfynu ei gadw fel aelod o'r tîm hyfforddi, yn yr un rôl ag y bu ynddi dan Chris Coleman.

'Ffordd Gymreig o hyfforddi a chwarae'

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn datganiad nos Iau: "Gall CBDC gadarnhau y bydd Osian Roberts yn sefyll i lawr fel Cyfarwyddwr Technegol Ymddiriedolaeth CBDC a Rheolwr Cynorthwyol Tîm Cenedlaethol Cymru er mwyn derbyn swydd yn yr un rôl yng Nghymdeithas Bêl-droed Moroco.

"Ers ei benodiad yn 2007, mae enw Roberts wedi bod yn gysylltiedig gyda 'Ffordd Gymreig' y tîm cenedlaethol o hyfforddi a chwarae dros y degawd diwethaf.

"Ers 2010, mae wedi chwarae rhan allweddol o staff hyfforddi'r tîm cenedlaethol, yn gyntaf fel Rheolwr Cynorthwyol i Gary Speed, cyn ymuno â thîm Chris Coleman yn 2014 gan gyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016 UEFA.

"Yn 2018 cafodd ei benodi yn Hyfforddwr Cynorthwyol gan Ryan Giggs.

"Hoffai CBDC ddiolch i Osian am ei ymrwymiad i bêl-droed Cymru dros y 12 mlynedd diwethaf a dymunwn yn dda iddo yn y dyfodol."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Owain Llyr

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Owain Llyr