Cymro'n cystadlu i ennill teitl dyn cryfaf Ewrop
- Cyhoeddwyd
Bydd dyn cryfaf Cymru yn cystadlu am deitl pencampwr Ewrop dros y Sul.
Mae Ben 'Badger' Brunning o'r Bala wedi ennill teitl dyn cryfaf Cymru dair gwaith ac wedi bod yn cystadlu ers 2012.
Mae'r bencampwriaeth yn cael ei chynnal yn Rotherham.
Fe fydd y dyn 31 oed yn wynebu nifer o sialensau, gan gynnwys:
Codi 320 cilogram - hynny ellith o - mewn 60 eiliad;
Codi pren 140 cilogram dros ei ben - hynny ellith o - 60 eiliad;
Cymryd darn pren 400 gilogram 20 medr - amser cyflymaf;
Dal morthwyl 25 cilogram am yr amser hired posib; a
Llwytho bagiau tywod 120, 130 a 140 cilogram yn yr amser cyflymaf.
Dywedodd Ben ei fod wedi bod yn ymarfer yn galed ar gyfer y gystadleuaeth ac mae'n gobeithio cyrraedd y podiwm.
Yn ôl Nia Davies, partner Ben, mae'r holl hyfforddi yn golygu lot o siopa bwyd.
"Mae o'n bwyta pedair brest cyw iâr y dydd efo pitta bread a salad a ballu wedyn ar ben hynny mae'n cael brecwast neu shake.
"Wedyn min nos mae o'n cael swper call efo fi - fel arfer 'den ni'n cael stêc neu rywbeth felly - digon o brotein a carbs hefyd.
"Mae o'n anferthol o gryf - mae o fatha arth a dweud gwir, ac mae o'n gallu codi pwysau fel 400 cilogram ffwrdd o'r ddaear fatha dead lift."