'Mae angen mwy o leisiau gwahanol yn newyddiaduraeth Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Sian PowellFfynhonnell y llun, Camera Sioned
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Siân Powell ei geni yr un flwyddyn â Golwg, y cwmni sy'n rhedeg cylchgrawn Golwg, gwefan golwg360 a menter Bro360

Mae Dr Siân Powell, prif weithredwr newydd cwmni Golwg, yr un oed yn union â'r cwmni y mae hi bellach yn bennaeth arno.

Mae hi a'r cwmni yn dathlu eu pen-blwydd yn 31 mlwydd oed yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol pan fydd Siân yn dechrau ar ei swydd.

Mae'n cymryd yr awenau oddi wrth Dylan Iorwerth a sefydlodd y cwmni yn 1988.

Fe fydd yn wythnos brysur i Dr Powell, sydd o Rosmeirch ym Môn yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, lle mae'n byw gyda'i gŵr, Llŷr, a'u merch fach flwydd oed.

Mae'n cymryd rhan mewn sawl sgwrs ar faes yr Eisteddfod gan gynnwys trafodaeth am ddyfodol newyddiaduraeth brint yng Nghymru ym mhabell Prifysgol Caerdydd ddydd Gwener.

Democratiaeth iach

Mae'n bwnc sy'n agos at ei chalon - fe gwblhaodd ddoethuriaeth ar rôl newyddiaduraeth yn ystod etholiadau yn dilyn datganoli yng Nghymru cyn mynd yn ddarlithydd yn y maes ar gwrs newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd.

Ers 2016 mae wedi gweithio ar ei liwt ei hun ym maes cyfathrebu ac ymchwil gan weithio i wahanol fusnesau a sefydliadau.

Oherwydd hynny, roedd yr elfen o'r busnes sy'n rhan o gwmni Golwg sy'n darparu gwasanaethau fel ysgrifennu copi, cyfieithu a dylunio, yn apelio iddi.

"Mae'n rhan o be' dwi wedi bod yn ei wneud am y cyfnod diwethaf, rhwng cael babi a bod yn ddarlithydd," meddai.

"Felly roedd datblygu'r ochr yna o'r busnes yn apelio. A gan mod i wedi astudio doethuriaeth mewn newyddiaduraeth dwi'n sylweddoli pa mor bwysig ydi newyddiaduraeth, a newyddiaduraeth dda, i gymdeithas ac i ddemocratiaeth hefyd.

"Mae'n hynod o bwysig bod yna ffynonellau newyddiadurol annibynnol yn Gymraeg yn adrodd ar y straeon yma, bod pobl ddim yn gorfod dibynnu ar y BBC.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cylchgrawn Golwg yn cael ei gyhoeddi yn wythnosol

'Angen mwy o leisiau'

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod yna gystadleuaeth i'r BBC - mae cystadleuaeth yn beth da - ac mae'n bwysig ein bod ni'n tanlinellu'r ffaith fod yna wasanaeth annibynnol ar gael fel Golwg.

"Efallai ein bod ni fel busnes ar hyn o bryd ddim yn gwneud digon o hynny a'n bod ni angen tynnu mwy o sylw at y ffaith bod mwy o ddewis annibynnol ar gael.

"Mwy o newyddiaduraeth sydd ei angen a mwy o leisiau gwahanol.

"Mae gwasanaeth fel Nation.Cymru yn dangos bod na fodelau gwahanol yn gallu gweithio ond mae'r gallu i fynd i ffynonellau gwahanol i gael ein newyddion yn cryfhau ein gwybodaeth ac yn cryfhau democratiaeth."

Yn ogystal â gallu adrodd straeon gwahanol i'r BBC, ac o onglau gwahanol, mae Siân Powell am i Golwg barhau i fod â rôl mewn gosod yr agenda newyddion hefyd.

Er hynny mae'n cydnabod ei bod yn her i wneud yn siŵr bod yr agenda sy'n cael ei gosod a'r straeon sy'n bwysig i Gymru yn cael eu gweld gan ddefnyddwyr sydd efallai wedi arfer cael eu newyddion o ffynonellau Prydeinig.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n ffeindio'r ffyrdd gorau o gyfathrebu'r straeon sydd yn Golwg ac ar golwg360 am Gymru ac o safbwynt Cymru fel bod pobl yn gallu clywed straeon am eu ardaloedd nhw yn hytrach na dibynnu ar bapurau fel The Sun a'r Daily Mail ac i weld pethau o bersbectif Prydeinig yn unig," meddai gan gyfeirio at eu gwaith gyda phapurau bro hefyd fel enghraifft o hyn.

Bydd Dr Powell yn rhannu ei hamser rhwng lleoliad prif swyddfa Golwg yn Llanbed a Chaerdydd.

Hefyd o ddiddordeb: