Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-1 Hull

  • Cyhoeddwyd
Borja yn sgorioFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Gôl Borja Bastón ddaeth ag Abertawe yn gyfartal

Steve Cooper oedd yn drech yn y frwydr rhwng dau o reolwyr newydd y Bencampwriaeth, gydag Abertawe yn curo tîm Grant McCann 2-1 yn y Liberty.

Daeth y fuddugoliaeth i Cooper, cyn hyfforddwr tîm dan 17 Lloegr, diolch i adfywiad Abertawe wedi dechrau siomedig.

Fe aeth Hull ar y blaen ar ôl dim ond tri munud, Daniel Batty yn rhwydo.

Os mai tri munud y bu'n rhaid i Batty aros, mae Borja Bastón wedi aros tair blynedd i sgorio i'r Elyrch.

Ei beniad o wedi 48 munud ddaeth a'r timau yn gyfartal gyda gôl Mike van der Hoorn yn sicrhau'r fuddugoliaeth dim ond dau funud yn ddiweddarach.