Oedi traffig wrth adnewyddu pibellau nwy
- Cyhoeddwyd
Bydd y gwaith o uwchraddio rhwydwaith pibellau nwy mewn rhan o'r canolbarth yn dechrau ddydd Llun.
Mae dargyfeiriadau ffyrdd a goleuadau traffig eisoes wedi eu gosod yn Y Drenewydd ym Mhowys ar gyfer y gwaith.
Dywedodd y cynghorydd Joy Jones fod pobl leol wedi bod yn dioddef oherwydd tagfeydd traffig ar y cyffordd rhwng Ffordd Dolfor a siop Lidl a hynny chwe mis ar ôl i ffordd osgoi newydd gael ei hagor.
Fe fydd y lôn fynedfa ar gyffordd Ffordd y Parc yn cael ei chau dros dro rhwng 5-16 Awst.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Mae cwmniau Hafren Dyfrdwy a Wales and West Utilities am wneud gwaith adnewyddu sylweddol yn ardal y Drenewydd, gwaith sydd wedi gorfod cael ei ohirio am beth amser.
"Y rheswm am hyn oedd oherwydd byddai anghyfleustra mawr wedi ei achosi pe na bai y ffordd osgoi wedi ei hagor.
"Mae'r gwaith yn digwydd yn ystod gwyliau'r haf oherwydd bod y safle yn agos i nifer o ysgolion."
Ym mis Chwefror fe gafodd y ffordd osgoi pedair milltir o hyd ei hagor a hynny 70 o flynyddoedd ar ôl i ddogfen ymddangos yn 1949 yn dweud fod yr hen gyngor Sir Drefaldwyn yn ystyried y posibilrwydd o ffordd osgoi.