Falyri Jenkins yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams
- Cyhoeddwyd
Cafodd dynes sydd wedi'i disgrifio fel "chwip o athrawes" ei hanrhydeddu gyda Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ddydd Mawrth.
Er mai o Sling ger Bethesda, Gwynedd daw Falyri Jenkins yn wreiddiol, mae hi wedi ymgartrefu yn Nhalybont ger Aberystwyth ers 1978 ac ers hynny wedi bod yn hyfforddi unawdwyr, partïon, corau ac offerynwyr.
Mae cenedlaethau o blant o bob cwr o Gymru wedi bod yn canu caneuon o nifer o lyfrau cerddoriaeth y bu hi'n gyfrifol amdanyn nhw, gan gynnwys Caneuon Byd a Bawd a'r gyfrol Clap a Chân i Dduw, sef casgliad o emynau modern ar gyfer ysgolion ac ysgolion Sul ar y cyd gydag Eddie Jones.
Yn eu plith mae 'Clap, Clap - un, dau, tri' a 'Dyma'r bwgan Brain'.
Mae Ms Jenkins hefyd yn gyfrifol am olygu'r papur bro lleol, Papur Pawb, yn ogystal â threfnu nosweithiau drama rheolaidd yn y pentref.
"Cardi fabwysiedig yw Falyri, [ond] mae gwerthoedd cymdogaeth dda Dyffryn Ogwen sydd wedi rhoi sail dda i'w bywyd," meddai Meistr y Seremoni R Alun Evans.
Yn ystod y seremoni cafodd medli o'u chaneuon eu canu ar y llwyfan gan rai o ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Talybont, lle bu Ms Jenkins yn dysgu am nifer o flynyddoedd.
Cafodd ei disgrifio gan bennaeth yr ysgol honno fel "athrawes o'r radd flaenaf."
Fe gafodd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams ei sefydlu 43 o flynyddoedd yn ôl, ac yn ôl Mr Evans roedd nifer yn haeddu'r fedal eleni, ond bod Ms Jenkins wedi dod i'r brig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2019