'Gofyn am syniadau' i gyrraedd miliwn o siaradwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog y Gymraeg wedi cyfaddef nad yw ymdrechion y llywodraeth i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ym myd addysg wedi gweithio.
Dywedodd Eluned Morgan eu bod wedi "rhoi lot o arian ar y bwrdd", ond bod hynny ddim wedi denu mwy o ddarpar-athrawon i hyfforddi drwy'r Gymraeg.
Ychwanegodd wrth siarad mewn panel ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst bod y llywodraeth yn "barod i wrando" ar unrhyw syniadau newydd.
Daeth hynny wrth i'r gweinidog ymweld â'r maes i gyhoeddi'r camau nesaf yn y broses o gyrraedd miliwn o siaradwyr, fydd yn cynnwys cyflogi arbenigwyr i arwain a chynghori tasglu newydd.
'Unrhyw syniadau?'
Cyn lansiad yr uned newydd fodd bynnag, bu'r Farwnes Morgan yn cyfrannu at sgwrs banel ar stondin Cymdeithas yr Iaith yn trafod cynllunio gweithlu'r dyfodol ym meysydd fel addysg ac iechyd.
Yno fe ddywedodd fod "addysg yn ganolog i bopeth ni'n 'neud" o ran anelu at filiwn o siaradwyr, gan bwysleisio nod y llywodraeth o sicrhau bod 40% o ddisgyblion yn mynychu addysg Gymraeg erbyn 2050.
Ond wrth drafod y cynigion ariannol sydd ar gael i ddarpar-athrawon sy'n hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg, fe gyfaddefodd nad oedd hynny yn ei hun yn ddigon.
"Ni'n rhoi lot o arian ar y bwrdd, ond eto dyw pobl ddim yn dod [i hyfforddi]," meddai.
Ychwanegodd: "Os oes unrhyw syniadau gyda chi, ni'n fodlon gwrando."
Ymhlith y cyfranwyr eraill ar y panel oedd Dilwyn Roberts-Young o undeb athrawon UCAC, ddywedodd y dylai'r llywodraeth hefyd ganolbwyntio ar gadw athrawon yn y proffesiwn yn ogystal â hyfforddi mwy ohonynt.
"Edrychwch ar y llwyth gwaith - ydy o'n broffesiwn sy'n denu a chadw?" gofynnodd.
Prosiect 2050
Yn ddiweddarach ddydd Llun fe wnaeth y Farwnes Morgan lansio 'Prosiect 2050', gan ddweud y byddai Llywodraeth Cymru yn "canolbwyntio o'r newydd" ar ymdrechion i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
Bydd yr arbenigwyr sy'n rhan o'r cynllun yn cael y dasg o gydlynu'r gwaith ar gynllunio llwybrau addysg, dyblu'r defnydd o'r Gymraeg drwy greu mentrau newydd, cyfrannu at y gwaith o gynnal cymunedau Cymraeg a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.
Ychwanegodd y gweinidog y byddai rheoliadau newydd yn cael eu datblygu ar gyfer safonau iaith i gwmnïau dŵr a rheoleiddwyr gofal iechyd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi arwyddo memorandwm o gyd-ddealltwriaeth gyda Chomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, fydd yn "sicrhau eglurder ynghylch pwy sy'n arwain ar wahanol elfennau o'r gwaith i geisio cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg".
"Bydd y mesurau newydd rwy'n eu cyhoeddi heddiw yn ein helpu i gyrraedd ein targed uchelgeisiol. Maen nhw'n adeiladu ar y rhaglenni a'r mentrau rydym eisoes wedi'u sefydlu," meddai'r Farwnes Morgan.
"Dyma'r cam nesaf ar y daith tuag at Cymraeg 2050 a fydd yn sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg, cyn belled ag y byddwn ni, y bobl sy'n caru'r iaith, yn cydweithio i rannu ein cariad a'n hangerdd â gweddill y wlad."
'Cam bach ymlaen'
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, gan ei alw'n "gam bach ymlaen".
Dywedodd cadeirydd y mudiad, Osian Rhys: "Rydyn ni'n croesawu cyhoeddiad heddiw fel cam bach ymlaen; yn y llywodraeth y mae gweithredu ein strategaeth iaith genedlaethol.
"Ond mae ffordd bell i fynd nes ein bod ni'n gweithredu i'r un graddau â Gwlad y Basg - byddai hynny'n golygu buddsoddi £180m y flwyddyn yn nyfodol y Gymraeg: dyna sydd ei angen."