Rhybudd tywydd: Trafferthion ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd

Pobl yn gwylio tonnau ar y creigiau ym Mhorthcawl
Mae cannoedd o gartrefi wedi bod heb drydan mewn mannau o Gymru ddydd Sadwrn wrth i'r tywydd gwael barhau.
Eisoes mae gwyntoedd cryfion a chawodydd trwm o law wedi achosi trafferthion i deithwyr, ac mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am wynt mewn grym ar draws Cymru gyfan tan 00:00 nos Sadwrn.
Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst wedi gorfod newid eu trefniadau eto mewn ymateb i effeithiau posib y tywydd ar ddiwrnod olaf yr ŵyl ar ôl gorfod cau'r maes pebyll ieuenctid ddydd Gwener a chanslo perfformiadau Maes B.
Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio bod yna bosibilrwydd i Afon Conwy "godi'n arw a symud yn gyflym", gan gynghori pobl i gymryd gofal a chadw'n "glir o lan yr afon".

Mae'r rhybudd tywydd mewn grym tan hanner nos heno
Mae cartrefi wedi bod heb gyflenwad trydan mewn rhannau o siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Penfro a Chaerfyrddin.
Yn ôl cwmni Western Power Distribution ychydig cyn 16:00 ddydd Sadwrn, roedd 1437 o gwsmeriaid yng Nghymru heb gyflenwad trydan.
Roedd dros 829 o'r rheiny yn Aberpennar, 220 ym Merthyr Tudful a bron i 200 yng Nghas-gwent.
Yn gynharach ddydd Sadwrn, roedd bron i 700 i gwsmeriaid heb drydan yn ardal Glynebwy, a bron i 350 yn ardal Glyn-nedd.

Coeden ar draws ffordd yn Llanbedr-y-Fro, ym Mro Morgannwg, gan dynnu cêbl ffôn i lawr wrth syrthio
O ganlyniad i'r gwyntoedd cryfion mae yna gyfyngiadau cyflymder ar rai ffyrdd, gan gynnwys Pont Britannia yn y gogledd.
Mae lonydd ar ambell i bont ar gau i gerbydau uchel, gan gynnwys ar yr M48 Pont Hafren, a Phont Cleddau yn Sir Benfro.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae glaw trwm yn effeithio ar rannau o'r rhanbarth ac maen nhw'n apelio ar bobl i yrru'n ofalus gan fod "dŵr arwynebol ar nifer o'r ffyrdd".
Yn Sir Conwy mae gorsaf drenau Dolgarrog ar gau oherwydd llifogydd.

Mwd ym mynedfa maes yr Eisteddfod fore Sadwrn wedi cawodydd o law dros nos
Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod un lôn ar gau ar yr A40 rhwng Halfway a Threcastell wedi tirlithriad.
Mae Heddlu De Cymru'n dweud bod nifer o goed wedi syrthio, gan gynnwys un ym maes parcio siop Home Bargains yn Aberaman, Rhondda Cynon Taf ac un wnaeth lanio ar draws ffordd ym Mhentyrch yng Nghaerdydd.
Bu'n rhaid i Wasanaeth Tân De Cymru ddelio ag arwydd mawr a gafodd ei rwygo gan y gwynt yn Stadiwm Principality, Caerdydd.
Dywedodd Dŵr Cymru bod eu criwiau yn brysur iawn gan eu bod yn derbyn nifer fawr o alwadau yn sgil y gwynt a'r glaw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2019