Nodi 200 mlynedd ers dechrau adeiladu Pont Menai

  • Cyhoeddwyd
Pont MenaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bont dros Afon Menai ei chwblhau yn 1826

Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal ym Mhorthaethwy ddydd Sadwrn er mwyn dathlu 200 mlynedd ers dechrau'r gwaith o adeiladu Pont Menai, neu Bont y Borth.

Dywedodd y trefnwyr - elusen Treftadaeth Menai - y bydd cyfle i ddysgu am fyw yn yr 19eg ganrif a gweld sut gafodd y bont eiconig ei hadeiladu.

Bydd yr hyn maen nhw'n alw'n Ffair Hanes yn cael ei chynnal rhwng 10:00 a 16:00 ar Bier Y Tywysog ym Mhorthaethwy.

Fe fydd seremoni toc wedi hanner dydd ger sylfeini'r bont ble bydd plac yn cael ei ddadorchuddio i nodi union 200 mlynedd ers i'r garreg gyntaf gael ei gosod.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar y bont yn yr 1930au

Cafodd y bont rhwng Ynys Môn a Gwynedd ei chwblhau yn 1826, a chyn hynny yr unig ffordd o groesi oedd ar gwch.

Mae'r bont, gafodd ei dylunio gan Thomas Telford, bellach yn strwythur rhestredig Gradd I ac mae'n parhau i gario cerbydau ar hyd yr A5.

Fe gafodd ail groesiad dros Afon Menai - Pont Britannia - ei hagor yn 1850 er mwyn cludo trenau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y llynedd eu bod o blaid codi pont newydd dros Afon Menai, a hynny i'r dwyrain o Bont Britannia.