Cymorth ar gael i adael yr Eisteddfod yn ddiogel

  • Cyhoeddwyd
Tractor yn rhyddhau tryc a charafánFfynhonnell y llun, Nerys Powell
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i dractor ryddhau tryc aeth yn sownd wrth geisio tynnu carafán o'r maes carafanau ddydd Sul

Mae trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn dweud wrth bobl bod cymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen i adael y safle wedi i'r ŵyl ddod i ben nos Sadwrn.

Bu'n rhaid newid nifer o'r trefniadau, cau'r maes ieuenctid ar fyr rybudd a chanslo neu symud perfformiadau wedi cawodydd trwm a gwyntoedd cryf yn nyddiau olaf yr Eisteddfod yn Llanrwst.

Cafodd nifer o gerbydau gymorth tractorau i adael y maes carafanau a meysydd parcio ddydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran y trefnwyr bod "cymorth ar gael ar bob safle i'ch helpu i adael yn ddiogel".

Ychwanegodd: "Gadewch i'r staff yn y maes parcio wybod os ydych angen cymorth."

Disgrifiad,

Tractorau'r helpu symud cerbydau o feysydd y Brifwyl

Bu'n rhaid symud perfformiad Dafydd Iwan o Lwyfan y Maes i'r Pafiliwn nos Sadwrn wedi asesiadau risg yn sgil rhybudd melyn am wynt y Swyddfa Dywydd oedd mewn grym tan 00:00 nos Sadwrn.

Hefyd fe gafodd arlwy'r Tŷ Gwerin ddydd Sadwrn eu symud i'r Babell Ddawns, a Chaffi Maes B i stondin Shwmae Sumae.

Mae prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, wedi cydnabod y bydd yr ŵyl yn wynebu costau ychwanegol o ganlyniad i'r newidiadau dros y dyddiau diwethaf ond ni fydd y ffigwr terfynol yn amlwg am ychydig eto.

Pwysleisiodd bod rhaid rhoi diogelwch pobl yn gyntaf.

Mae'r trefnwyr eisoes wedi dweud y bydd manylion yn cael eu cyhoeddi yn fuan ynghylch trefniadau ad-dalu.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cawodydd trwm dros y deuddydd diwethaf wedi gadael eu hôl ar y maes carafanau