T20: Morgannwg yn colli o saith wiced
- Cyhoeddwyd
Mae tîm criced Morgannwg ar waelod y tabl wedi iddynt golli o saith wiced yn erbyn Surrey ar Erddi Soffia.
Morgannwg a fatiodd gyntaf ond erbyn y chweched belawd roedd Lloyd, Marsh a Fakhar allan am 34 rhediad.
Daeth Ingram â mymryn o obaith i'r tîm cartref gyda'i 41 ond ar ddiwedd yr ugain pelawd roeddynt wedi sgorio 152 am chwech.
Cipiodd R Smith wiced Finch yn y belawd gyntaf ond ar ôl hynny roedd batwyr Surrey yn gadarn ac ar ôl 19 pelawd roedd y fuddugoliaeth yn eiddo i'r ymwelwyr (155 am 3).
Gêm rhwng y ddau sydd ar waelod y tabl oedd hon, ac yno yr erys Morgannwg yn nawfed heb yr un fuddugoliaeth.
Mae Surrey yn parhau yn wythfed ond gyda dwy fuddugoliaeth bellach.