Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn penodi wardeiniaid newydd

  • Cyhoeddwyd
Emyr a MariFfynhonnell y llun, Mari Huws
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Emyr a Mari aros ar yr ynys am dair blynedd

Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli wedi cadarnhau bod wardeiniaid newydd wedi cael eu penodi i weithio ar yr ynys.

Bydd Mari Huws, 27 o Benygroes, ac Emyr Glyn Owen, 33 o Lansannan, yn dechrau ar eu swyddi newydd ym mis Medi.

Llwyddodd y ddau i guro nifer o ymgeiswyr eraill i fod yn wardeiniaid - sy'n golygu mai nhw fydd yn gyfrifol am adeiladau a gerddi yr ymddiriedolaeth, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr.

Dywedodd Ms Huws bod y swyddi yn rhoi cyfle i'r ddau ohonyn nhw "wireddu breuddwyd".

Roedd yr ymddiriedolaeth yn chwilio am wardeiniaid newydd ar ôl i Ned a Sophie Scharer orfod gadael y rôl ym mis Mai.

Bu'n rhaid i'r ddau adael yr ynys ddiwrnodau wedi iddynt gyrraedd am bod eu mab wedi'i anafu ar y traeth.

Mae disgwyl i'r wardeiniaid newydd aros ar yr ynys am dair blynedd.

Ffynhonnell y llun, Mari Huws
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Emyr a Mari gyfarfod am y tro cyntaf ar yr ynys

Dywedodd Ms Huws ei bod hi wedi crio gyda hapusrwydd am y tro cyntaf erioed ar ôl clywed y newyddion: "'Da ni'n cal gwireddu breuddwyd - a ma' cael 'neud hyn 'efo Emyr yn well na'r freuddwyd.

"Fe sgwennon ni lot o restrau pros and cons cyn trio am y swydd, ac y con mwyaf am drio am y swydd oedd y siom o beidio ei chael hi os 'sa ni ddim yn llwyddiannus.

"Ma' hi'n swydd heriol, mi fydd 'na lot o waith caib a rhaw, peintio a garddio a ballu, ond fydd o'n waith boddhaol 'fyd - ac am bob dydd byr ac oer yn y gaeaf mi fydd 'na ddiwrnodau hudol hir yn yr haf.

"'Da ni mewn cyfnod perffaith o rydd yn ein bywydau i fedru codi pac a byw ar ynys yng nghanol y môr am dair blynedd 'fyd!"

'Torchi llewys ac awê!'

"Heblaw am ddeffro bob bora i un o olygfeydd gorau Cymru, 'da ni'n edrych 'mlaen i gael swyddfa wyllt, wyntog, a her newydd bob dydd," meddai.

"Dwi methu disgwyl i gael plannu'r ardd yn y gwanwyn a gweld be sy'n tyfu erbyn yr haf; ac am holl fwrlwm y tymor pan gawn ni groesawu pawb i'r ynys.

"Mae Enlli yn enwog am ei gemau rownders a phêl-droed... dyna sut nathon ni gyfarfod, mewn gêm o five-a-side ar yr ynys!"

Ychwanegodd Ms Huws y bydd yna heriau ynghlwm â'r swydd hefyd: "Mi fydd y gaeaf yn hir, heb os. A ma' hi'n hawdd anghofio yng nghanol Awst y bydd 'na ddyddiau lle fydd hi'n dywyll erbyn 16:00.

"Ond 'da ni'n edrych 'mlaen am yr her a'r profiad hollol unigryw, prin o gael byw yn Enlli drwy bob tymor. Pac o gardiau, llwyth o lyfra', synnwyr digrifwch, torchi llewys ac awê!"