Rhybudd melyn am stormydd yn nwyrain Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd ar gyfer ardaloedd yn nwyrain Cymru ddydd Mercher.
Daw'r rhybudd am stormydd mellt a tharanau a chawodydd trwm i rym am 14:00, gan barhau mewn lle nes 22:00.
Mae'r rhybudd mewn grym yn siroedd Dinbych, Y Fflint, Powys a Wrecsam.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn cynghori gyrwyr i gymryd pwyll ac yn rhybuddio bod siawns y bydd rhai yn colli eu cyflenwad trydan.
Ychwanegon nhw y gallai rhai cartrefi a busnesau brofi llifogydd, neu gael eu difrodi gan fellt.