Mentro i'r Matterhorn: Her Cymraes yn Oes Fictoria
- Cyhoeddwyd
150 mlynedd yn ôl i eleni fe geisiodd gwraig o Sir Faesyfed fod yn un o'r cyntaf i ddringo un o fynyddoedd ucha'r Alpau, y Matterhorn.
Ganwyd Emmeline Lewis-Lloyd yn 1827. Roedd ei rhieni yn berchen ar blasty Nantgwyllt, sydd nawr yn gorwedd o dan gronfa Caban Coch yng Nghwm Elan.
Roedd ei thad, Thomas Lewis-Lloyd, yn Ustus Heddwch ac Uchel Siryf yr hen sir Aberteifi. Yn blentyn annibynnol iawn, dangosodd ddiddordeb mewn dringo yn ifanc a roedd ganddi hefyd ddiléit mewn bridio merlod a physgota.
Y gred yw mai gŵr o Chamonix, Ffrainc - un o weision stablau plasdy'r Lewis-Lloydiaid - a gyflwynodd fynydda i'r teulu gyntaf.
Roedd Jean Charlet yn dywysydd mynydd, ac aeth ymlaen yn ddiweddarach i briodi un o ffrindiau Emmeline, Isabella Straton - un o ddringwyr benywaidd blaenaf Oes Fictoria.
Er na chafodd gwragedd yr hawl i farcio papur pleidlais am hanner canrif arall, ynghanol yr 19eg ganrif roedd merched yn brysur wneud eu marc ar lethrau a chlogwyni yr Alpau a'r Pyreneau, a thu hwnt.
Yn ôl y dringwr Fictoriaidd amlwg AF Mummery, roedd yna dri math o fynydd; 'un anghyraeddadwy', 'y ddringfa anoddaf' yn yr Alpau' a 'diwrnod hawdd o ddringo allai hyd yn oed gwraig ei wneud'.
Ond roedd realiti yn dipyn gwahanol mewn gwirionedd, gyda merched fel Emmeline ac Isabella yn dringo mewn pâr ac ochr-yn-ochr â chriwiau o ddynion ar rai o ddringfeydd mwyaf heriol y cyfandir.
Yr unig beth oedd yn eu hatal yn aml oedd confensiynau caeth yr oes.
Bu'n rhaid i Felicité Carrel roi'r gorau i'w hymgais hi i ddringo'r Matterhorn gyda'i thad yn 1867 ar ôl i'w sgert hir 'falwnio' a gwneud cario ymlaen yn rhy beryglus, rhag ofn iddi gael ei chwythu oddi ar y mynydd.
A chodwyd gwrychyn llawer pan ddaeth newyddion bod gwragedd yn rhannu pebyll gyda'r dynion ar rai dringfeydd!
Yn 1869, dim ond pedair blynedd ar ôl iddo gael ei ddringo gyntaf, ceisiodd Emmeline ac Isabella ddringo'r Matterhorn. Ond yn anffodus, bu'r ymgais yn fethiant.
Fodd bynnag, roedden nhw ymysg y gwragedd cyntaf i ddringo mynydd y Monte Viso yn Yr Eidal yn 1870 - sef yr ysbrydoliaeth i logo cwmni ffilm Paramount.
Y flwyddyn ddilynol roedd y ddwy yn rhan o'r grŵp cynta' i ddringo'r Aiguille du Moines ger Mont Blanc, sydd â chopa tair gwaith uchder yr Wyddfa.
Erbyn 1873 roedd Lewis-Lloyd wedi rhoi'r gorau i fynydda. Bu farw yn Hampstead Gardens, Llundain yn 1913 yn 85 oed.
Wrth gwrs, doedd dim gobaith dychwelyd i Nantgwyllt tuag at ddiwedd ei hoes gan fod y plasty erbyn hynny wedi'i foddi.
Fe'i claddwyd ym mynwent Llansanffraid Cwmdeuddwr ger Rhaeadr, ac mae plac iddi ar wal yr eglwys yn nodi ei gorchest o fod yr wythfed wraig i ddringo mynydd uchaf gorllewin Ewrop, Mont Blanc.
Hefyd o ddiddordeb: