Rhybudd teithio wrth i Gymru herio Lloegr yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd dros 70,000 o gefnogwyr yn heidio i Stadiwm Principality ddydd Sadwrn

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio y bydd y ddinas yn hynod o brysur ddydd Sadwrn wrth i Gymru herio Lloegr yn Stadiwm Principality.

Bydd dros 70,000 o gefnogwyr yn heidio i'r stadiwm er mwyn gwylio'r gêm baratoadol cyn Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan fis nesaf.

Lloegr oedd yn fuddugol pan wnaeth y ddwy wlad gyfarfod yn Twickenham y penwythnos diwethaf.

Bydd y mwyafrif o ffyrdd yng nghanol y ddinas ynghau rhwng 10:45 a 17:45, gyda'r gic gyntaf yn y stadiwm am 14:15.

'Beic yn gynt'

Mae Undeb Rygbi Cymru yn cynghori cefnogwyr i gyrraedd y stadiwm yn gynnar a "gadael bagiau mawr gartref" er mwyn hwyluso cael mynediad.

Mae pob tocyn ar gyfer y gêm wedi'i werthu.

Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn annog pobl i seiclo neu gerdded i'r ddinas, gan ddweud bod "teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr".

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn ardal Lecwydd, gyda'r safle ar agor rhwng 09:00 a 22:00.

Mae unrhyw un sy'n teithio ar drên i'r ddinas yn cael eu cynghori i gyrraedd mor gynnar â phosib, a bydd system rheoli torfeydd ar waith yng ngorsaf Caerdydd Canolog ar ôl y gêm.